Newyddion S4C

Car a lori wedi mynd ar dân wedi gwrthdrawiad ar yr M4 ger Llanelli

19/03/2024
Traffic Wales

Mae ffordd ar gau wedi gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr M4 ger Llanelli.

Fe aeth y ddau gerbyd ar dân wedi'r gwrthdrawiad tua 23.20 nos Lun ar gyffordd 48 Hendy.

Roedd yn rhaid cau'r gyffordd i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 48 a 49.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod disgwyl i’r ffordd fod ar gau nes prynhawn ddydd Mawrth.

“Cynghorir defnyddwyr y ffordd i osgoi'r ardal a chymryd llwybr arall os yn bosibl,” meddai’r heddlu.

“Rydyn ni’n rhagweld y bydd y ffordd yn parhau ar gau tan yn ddiweddarach y prynhawn yma.”

Llun: Traffic Wales.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.