Newyddion S4C

GB News: Rhaglenni ASau Ceidwadol yn torri rheolau Ofcom

18/03/2024
Jacob Rees-Mogg ar GB News

Mae Ofcom wedi dweud bod rhaglenni gan ASau Ceidwadol ar sianel GB News wedi torri eu rheolau ar fod yn ddiduedd.

Roedd y rhaglenni wedi eu cyflwyno gan gyn arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Jacob Rees-Mogg, y gweinidog Esther McVey a’r meinciwr cefn Philip Davies.

“Fe wnaethon ni ddarganfod bod dwy bennod o State Of The Nation gan Jacob Rees-Mogg, dwy bennod o Friday Morning With Esther And Phil, ac un bennod o Saturday Morning With Esther And Phil, a ddarlledwyd yn ystod Mai a Mehefin 2023, wedi methu â chydymffurfio â Rheolau 5.1 a 5.3 o’r Cod Darlledu,” meddai Ofcom.

Dywedodd y corff sy'n craffu ar y cyfryngau bod y gwleidyddion “yn gweithredu fel darllenwyr newyddion, cyfwelwyr newyddion neu ohebwyr newyddion mewn eitemau a oedd yn amlwg yn cynnwys newyddion - gan gynnwys adrodd am ddigwyddiadau newyddion sy’n torri - heb gyfiawnhad, ac felly ni chyflwynwyd y newyddion â didueddrwydd dyladwy”.

Aeth Ofcom ymlaen: “Mae gan wleidyddion rôl gynhenid mewn cymdeithas ac mae cynnwys newyddion a gyflwynir ganddynt yn debygol o gael ei weld gan gynulleidfaoedd yng ngoleuni’r duedd honno.

“Yn ein barn ni, mae’r defnydd o wleidyddion i gyflwyno’r newyddion mewn perygl o danseilio gonestrwydd a hygrededd newyddion darlledu rheoledig.”

Mae GB News wedi cael cais am sylw.

Beth yw’r rheolau Ofcom?

Yn ôl rheol 5.1: “Rhaid adrodd newyddion, ar ba bynnag ffurf, gyda chywirdeb dyladwy a’u cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.”

Yn ôl rheol 5.3: “Ni cheir defnyddio unrhyw wleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd neu ohebydd mewn unrhyw raglenni newyddion oni bai fod cyfiawnhad golygyddol dros hynny mewn achosion eithriadol.

“Mewn achos o’r fath, rhaid egluro teyrngarwch gwleidyddol y person hwnnw i’r gynulleidfa.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.