Banc Lloyds i gau tair cangen yng Nghymru

Banc Lloyds. Kake (drwy Flickr)
Fe fydd Grŵp Bancio Lloyds yn cau tair cangen yng Nghymru dros y misoedd nesaf.
Bydd 29 cangen Banc Lloyds a 15 cangen Halifax yn cau ar draws y Deyrnas Unedig, gyda thair yng Nghymru, yn ôl The Mirror.
Canghennau Lloyds ym Maendy yng Nghasnewydd, Pentre'r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf a Thredelerch yng Nghaerdydd fydd yn cau eu drysau.
Mae'r cwmni wedi cyhoeddi fod y newid yn sgil cynnydd yn y nifer o bobl sy'n bancio'n ddigidol yn ystod y pandemig.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.