Newyddion S4C

Rhieni yn anhapus wrth i wasanaeth bws i Ysgol Gymraeg ddod i ben

15/03/2024
Finley

Mae rhieni sy’n gyrru eu plant i ysgol Gymraeg wedi ymuno ag ymgyrch i atal gwasanaethau bysys yn Llanelli rhag dod i ben.

Dywedodd Zoe Rees a Rachel Galloway y bydd rhaid i’w plant gerdded dwy filltir er mwyn cyrraedd Ysgol Y Strade a fod ganddyn nhw bryderon am eu diogelwch.

Dyw’r plant ddim yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth am ddim i’r ysgol am eu bod nhw’n byw o fewn tair milltir.

Ond ers blynyddoedd mae bysiau L23, L24 a L27 wedi bod yn mynd â phlant i ysgolion Ysgol Y Strade, Bryngwyn, a St John Lloyd.

Bydd y gwasanaethau hynny gan y cwmni DR Taxis Llanelli Ltd yn dod i ben ar ddydd Gwener 22 Mawrth am resymau ariannol.

Mae’r rhieni wedi sefydlu grwp Bysiau Ysgol i Bawb sydd eisoes wedi cwrdd yng nghlwb rygbi Felinfoel, ac maen nhw’n galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i ymyrryd.

Dywedodd Zoe Rees, o Heol Goffa, Llanelli ei bod hi’n fam sengl sydd ddim yn gyrru a bellach yn ffonio cwmniau bysiau gwahanol ond yn cael “na” gan bob un.

“Mae gennym ni rieni yn cerdded llwybrau gwahanol ac rydyn ni’n gweld faint o oleuadau stryd sydd, a oes teledu cylch cyfyng neu glychau drws camera,” meddai. 

“Flynyddoedd yn ôl roedden ni i gyd yn arfer beicio neu gerdded i’r ysgol, ond mae’n wahanol nawr. Dyw pethe ddim mor ddiogel ag yr oedden nhw.”

Roedd ei merch 14 oed, Keira, hefyd yn pryderu am orfod cerdedd i’r ysgol, meddai, a doedd dim modd iddi adael ei merch arall naw oed er mwyn cwblhau’r daith gyda hi.

Dywedodd Rachel Galloway bod ei mab 11 oed Finley yn wynebu taith 45 munud i gerdded i Ysgol y Strade, a hynny gydag offeryn cerddorol.

“Rydw i wedi dweud wrtho am beidio â phoeni am y peth,” meddai Mrs Galloway, sydd ynghyd â’i gŵr yn gweithio’n llawn amser. 

“Rwy'n rhedeg busnes ac fel arfer gallaf ddod o hyd i ateb. Ond rydw i wedi methu a gwneud dim. Rydw i wedi trio ffonio cwmnïau bysiau eraill.”

‘Cyfrifoldeb rhieni’

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Sir Gaerfyrddin dros Drafnidiaeth, na allai'r cyngor sir ymyrryd ond ei fod yn cydymdeimlo â’r disgyblion.

Dywedodd fod y cyngor wedi trefnu cludiant am ddim i tua 6,500 o ddisgyblion hyd at 16 oed oedd yn gymwys oherwydd eu bod yn byw mwy na thair milltir o'u hysgol uwchradd neu fwy na dwy filltir o'u hysgol gynradd.

“Cyfrifoldeb rhieni yw trefnu teithio i ddysgwyr nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim, naill ai oherwydd eu bod yn byw o fewn pellter statudol neu nad ydynt yn mynychu eu hysgol ddalgylch neu eu hysgol agosaf, ac mae hyn yn berthnasol i dros 20,000 o ddysgwyr,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod yr awdurdod sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru wedi gwneud pob ymdrech i annog gweithredwyr masnachol eraill i lenwi'r bwlch yn Llanelli ond heb lwyddiant. 

“Yn anffodus, dyma realiti masnachol diwydiant bysiau ar hyn o bryd sydd wedi ysgwyddo pwysau prinder gyrwyr, cynnydd mewn costau tanwydd, rhannau a cherbydau,” meddai.

Deall pryderon

Dywedodd DR Taxis Llanelli fod eu penderfyniad yn seiliedig ar resymau ariannol yn unig, a’u bod yn ymddiheuro i rieni a disgyblion. 

Dywedodd y perchennog Nicola Rees-Jones fod nifer y disgyblion sy'n mynd â'r bws i'r tair ysgol yn amrywio'n sylweddol o wythnos i wythnos. 

Ychwanegodd fod y cwmni'n edrych i brynu mwy o gerbydau llai. Dywedodd ei bod yn deall pryderon rhieni. “Mae fy mhlant yn defnyddio un o’r llwybrau,” meddai.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailwampio gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gan alluogi cynghorau a gweinidogion i gytuno ar rwydwaith bysiau lleol. 

Dywedodd Aelod Seneddol Llanelli Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, mai'r cynllun oedd i gludiant ysgol gael ei gynnwys yn y gwasanaeth bws sydd dan ystyriaeth, ond y byddai hyn yn cymryd amser.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.