Newyddion S4C

Y bleidlais yn cau yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru: Beth sy'n digwydd nesaf?

14/03/2024
Vaughan Gething Jeremy Miles

Mae’r bleidlais wedi cau am hanner dydd ddydd Iau yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Bydd enillydd yr orest rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn.

Mae’r ddau wedi bod yn cystadlu i gymryd lle Mark Drakeford, sydd wedi bod yn Brif Weinidog ers 2018, yn arweinydd Llafur Cymru.

Mae disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gymryd yr awenau fel pumed arweinydd Llywodraeth Cymru ar ôl i Mr Drakeford ymddiswyddo fel prif weinidog yn dilyn ei sesiwn gwestiynau olaf yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf.

Wedi hynny mae disgwyl i Mark Drakeford ysgrifennu llythyr at y Brenin Charles III er mwyn cyflwyno ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog.

Mae disgwyl y bydd pleidlais ar y Prif Weinidog newydd y dydd Mercher canlynol, gydag arweinydd Llafur Cymru, sydd â hanner y seddi yn y Senedd, bron yn sicr o'i hennill.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi gan y Llywydd Elin Jones. Yna bydd y Llywydd yn anfon llythyr at y Brenin yn argymell penodi'r unigolyn.

Unwaith y bydd y Brenin yn rhoi sel bendith bydd y Prif Weinidog newydd yn cymryd llw y diwrnod hwnnw.

'Braint'

Ar ôl i’r cyfnod pleidleisio gau, fe gyhoeddodd y ddau ymgeisydd negeseuon yn diolch i’w cefnogwyr.

“Gyda’r pleidleisiau bellach wedi cau, cyn cyhoeddi’r canlyniad ddydd Sadwrn yma, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan,” meddai’r Gweinidog Economaidd  Vaughan Gething.

“Diolch o galon.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles: “Mae’r pleidleisio bellach wedi cau. 

“Diolch i bawb sydd wedi pleidleisio ac wedi ein cefnogi drwy gydol yr ymgyrch hon.

“I mi, mae arweinyddiaeth yn ymwneud â’r ‘ni’, nid y ‘fi’ ac mae wedi bod yn fraint ymgyrchu ochr yn ochr â chi, fy nheulu yn Llafur Cymru.”

Roedd tua 100,000 o bobol yn gallu pleidleisio – aelodau Llafur Cymru ac aelodau o undebau cysylltiedig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.