Boris Johnson fel 'hyfforddwr pêl-droed absennol' yn ystod pandemig Covid-19
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod Boris Johnson fel "hyfforddwr pêl-droed absennol" yn ystod pandemig Covid-19.
Dywedodd fod penderfyniad Boris Johnson i beidio â mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y pandemig Covis-19 yn un “rhyfeddol”.
Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 yng Nghaerdydd ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford bod diffyg cyfarfodydd gyda chyn-Prif Weinidog y DU wedi effeithio ar allu’r llywodraethau datganoledig i wneud penderfyniadau ar y cyd.
Yn gynharach yn yr ymchwiliad, roedd Mr Johnson wedi dweud y byddai cwrdd ag arweinwyr y cenhedloedd eraill yn rhoi’r “darlun anghywir fod y DU yn wladwriaeth ffederal".
Wrth gael ei holi am ei ymateb i’r sylwadau yna, dywedodd Mr Drakeford: “Ysgrifennais yn rheolaidd iawn at Brif Weinidog y DU, yn gofyn am gyfres o gyfarfodydd rhwng penaethiaid y pedair gwlad.
“Doeddwn i heb ddeall nes i mi ddarllen, nad oedd y Prif Weinidog wedi gwrthod y ceisiadau hynny am resymau ymarferol - byddwn i wedi gallu deall hynny, gan ei fod yn gyfnod prysur iawn ac roedd yn ddyn prysur iawn.
"Ond fel mater o bolisi, roedd wedi penderfynu peidio â chyfarfod ac roedd hynny’n ymddangos i mi yn benderfyniad anghyffredin.”
'Cryfhau trefniadau'
Pan ofynnwyd os cafodd y penderfyniad effaith uniongyrchol ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, atebodd Mr Drakeford:
“Rwy’n credu ei fod wedi. Rwy’n credu fod sawl rheswm pam y byddai wedi bod yn well i gynnal cyfarfodydd rheolaidd.
"Doeddwn i byth yn gofyn am gyfarfodydd bob wythnos. Yn fy marn i, ar anterth y pandemig, pe byddwn ni’n cyfarfod unwaith bob tair wythnos, byddai hynny wedi bod yn ddigonol.
"Rwy’n meddwl bod nifer o ddibenion a fyddai wedi cael eu cyflawni’n briodol mewn cyfarfod o’r fath.
“Rwy’n meddwl y byddai, i ddefnyddio term y Prif Weinidog, wedi bod yn 'optegol bwysig' i bobl yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, i weld penaethiaid eu cenhedloedd yn dod at ei gilydd ar adeg o berygl cenedlaethol o’r fath.
“Rwy’n meddwl pe na baem wedi dod i benderfyniadau unfrydol trwy ddod at ein gilydd, byddem wedi dod i benderfyniadau ar y cyd.
“Felly oherwydd y ffaith y byddwn yn yr un ystafell â’n gilydd, efallai na fyddwn ni wedi dod i'r un casgliad, ond byddech chi i gyd yn gwybod beth roedd pawb arall yn ei benderfynu. Rwy’n meddwl y byddai hynny wedi cryfhau trefniadau.
“Ac yn olaf, rwy’n meddwl, y byddai cwrdd yn fwy rheolaidd yn gwella ymddiriedaeth, ac mewn pandemig pan fydd pethau’n symud mor gyflym a phan mae adegau mor anodd, mae ymddiriedaeth yn beth arbennig iawn.
"Rwy'n meddwl os edrychwch ar y cyfarfodydd gyda Michael Gove, erbyn i ni gyfarfod yn wythnosol ers tua chwe wythnos, roeddech chi’n gallu gweld sut roedd y sgwrs yn wahanol, sut yr oedd yn llifo'n fwy rhydd, sut roedd pobl yn siarad yn fwy agored â'i gilydd oherwydd roedden nhw wedi dod i arfer â bod yng nghwmni ei gilydd a chael y mathau hynny o drafodaethau.
"Roeddwn yn teimlo pe bawn ni wedi gallu gwneud hynny ar y lefel Prif Weinidogol, y byddem wedi ymddiried mwy yn y berthynas honno, a byddai hynny wedi bod yn beth da.”
'Rhyfeddol'
Dywedodd Mark Drakeford fod yna ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am y pandemig yn Llywodraeth y DU hyd yn oed ar ddiwedd mis Mai, deufis ers dechrau y clo mawr.
Dywedodd fod “negeseuon rhyfeddol” wedi eu gyrru gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar y pryd, Matt Hancock, ar y 30ain o Fai 2020.
Yn y negeseuon rheini roedd Matt Hancock yn “cael y peth mwyaf sylfaenol yn hollol anghywir," meddai.
“Mae ganddo gyngor gan ei gyfreithwyr, sy’n gywir,” meddai Mark Drakeford.
“Ond unwaith y gwnaed y penderfyniad y byddai’r penderfyniadau’n symud i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon [...] roedd rhaid i ni gyflawni’r cyfrifoldebau hynny pan gawsant eu rhoi yn ein dwylo ni.
“Ar y 30ain o Fai mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cael hynny’n hollol anghywir.
“Felly pe bawn i'n edrych i’r dyfodol a dysgu unrhyw wersi o’r profiad, y wers fyddai cael eglurder yn gynnar ynghylch sail gyfreithiol y penderfyniadau hynod o ddwys hyn.“