Newyddion S4C

Pwll nofio yng Ngheredigion yn cau ei ddrysau ar ôl 40 mlynedd oherwydd problemau ariannol 'difrifol'

11/03/2024
Pwll nofio Aberteifi

Bydd pwll nofio yng Ngheredigion yn cau ei ddrysau ddiwedd mis Mawrth yn sgil problemau ariannol “difrifol.” 

Fe fydd Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi yn cau ar ôl 40 mlynedd, a hynny oherwydd heriau wrth fynd i’r afael â “chostau ynni uwch a lefelau incwm is,” yn ogystal â’r “costau sylweddol” wrth gynnal a chadw’r safle, meddai’r ymddiriedolwyr. 

Byddai cadw’r pwll ar agor yn arwain at fethdaliadau, a byddai hynny’n hefyd arwain at beryg o “golli’r adeilad,” ychwanegodd yr ymddiriedolwyr. 

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd Llywydd y Senedd, ac aelod y senedd dros Geredigion, Elin Jones: 

“Mae'n rhaid bod hyn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i’r ymddiriedolwyr. 

“Rwy’n gobeithio y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal i ddod o hyd i ffordd i achub rhywbeth ar gyfer yr adeilad yma.

Mae’n bwysig nawr i dynnu pawb at ei gilydd i weld sut gellir adfer y sefyllfa a chynnal yr adnodd yma.”

Dywedodd yr ymddiriedolaeth eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion ynglŷn â’r posibilrwydd o drosglwyddo’r ased. 

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn benderfynol o weld yr adeilad yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol ac mae disgwyl i gynlluniau pellach gael eu trafod yn fuan.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Mae’r Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gydag ymddiriedolwyr Pwll Coffa Aberteifi a’r Neuadd ynglŷn â’r dyfodol a bydd ffordd ymlaen yn cael ei hystyried gan Gabinet y Cyngor yr wythnos nesaf."

Mae’r cyngor eisoes wedi cymeradwyo cynlluniau posib i agor ail ganolfan les Ceredigion yn Aberteifi, ac mi oedd y pwll nofio yn cael ei ystyried fel un o’r safleoedd ar ei chyfer. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.