Arestio dyn wedi i fenyw 31 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
10/03/2024
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fenyw 31 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y fenyw, a oedd ar feic, a cherbyd coch Seat Ibiza am tua 14:00 ddydd Sadwrn.
Roedd y car coch yn teithio ar hyd heol y B4306 o Bontyberem tuag at Hendy, tra bod y fenyw yn beicio tuag at gyfeiriad Llannon.
Bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle.
Fe gafodd gyrrwr y car ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus.
Mae wedi cael ei ryddhau tra bod yr heddlu yn parhau â'u hymchwiliad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar dystion i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20240309-174.