Newyddion S4C

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Creu rôl newydd arweinydd iechyd menywod yng Nghymru

08/03/2024
Dr Helen Munro

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n creu rôl newydd arweinydd clinigol ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru.

Bydd Dr Helen Munro, ymgynghorydd gofal iechyd rhyw ac atgenhedlol yn ymgymryd â'r rôl a fydd yn helpu i ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod i Gymru.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi cyllid gwerth £750,000 i gomisiynu ymchwil, o fis Ebrill 2025 ymlaen, a fydd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar iechyd menywod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan nad oedd  ymchwil i iechyd menywod “wedi cael digon o sylw na chyllid”.

“Dydyn ni ddim yn gwybod digon am lawer o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod a merched bob dydd, sy'n aml yn gyflyrau ag effeithiau difrifol,” meddai.

"Bydd yr ymchwil hon wedi'i seilio ar ymarfer blaenoriaethu fydd yn gofyn am farn y rhai sydd â phrofiad bywyd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw."

‘Wedi eu diystyru’

Mae ychydig dros hanner (51%) o fenywod wedi nodi bod ganddynt salwch hirdymor, ac mae 40% o fenywod wedi dweud bod y cyflyrau hyn yn cyfyngu arnynt. 

Mae hyn o’i gymharu â 45% o ddynion sy'n nodi bod ganddynt salwch hirdymor, a 30% sy’n dweud eu bod yn teimlo bod y cyflyrau hyn yn cyfyngu arnynt.

Mae cydlynwyr iechyd y pelfis a nyrsys endometriosis pwrpasol bellach yn gweithio ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, meddai Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal, medden nhw, mae hyfforddiant ar gyfer staff y GIG ar faterion iechyd menywod wedi'i gyflwyno ochr yn ochr â chynnwys addysg lles mislif yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm newydd.

Ychwanegodd Eluned Morgan: "Menywod a merched yw ychydig dros hanner y boblogaeth, ond rydyn ni'n dal i glywed straeon am leisiau a phryderon menywod am gyflyrau yn cael eu diystyru.

“Dw i wedi nodi'n glir fy ymrwymiad i wella gwasanaethau iechyd menywod, gwella canlyniadau i fenywod a merched, a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yn ein system iechyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.