Arestio dyn o Wynedd mewn ymchwiliad i amharu ar gartref moch daear
07/03/2024
Mae dyn o Wynedd wedi cael ei arestio yn dilyn ymchwiliad i amharu ar leoliad mochfa, sef cartref moch daear, meddai Heddlu'r Gogledd.
Cafodd gwarantau yr heddlu eu gweithredu yn ardaloedd Caernarfon a Llanllyfni mewn partneriaeth â’r RSPCA ddydd Mercher.
Cafwyd hyd i nifer o eitemau yn ystod y cyrchoedd, gan gynnwys dryll, meddyginiaeth, ffôn a chyfrifiadur.
Cafodd dau gi hefyd eu hildio i'r RSPCA.
Cafodd y dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymyrryd â mochfa moch daear ei gyfweld ac mae bellach wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NWPRuralCrime/status/1765408078965489866