Newyddion S4C

Dim gwisg arbennig ar Ddiwrnod y Llyfr oherwydd 'pwysau ar rieni'

07/03/2024
Ysgol Chwilog / Ema Owen

Mae ysgol yng Ngwynedd wedi penderfynu peidio gofyn i blant wisgo'n arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr, a hynny yn sgil y “pwysau” mae hynny'n roi ar rieni.

Bob blwyddyn mae Diwrnod y Llyfr yn hawlio lle yng nghalendr ysgolion dros y byd, ac un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd i nodi’r achlysur yw gofyn i blant wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr. 

Eleni, mae Ysgol Gynradd Chwilog, ger Pwllheli wedi penderfynu peidio gofyn i blant wneud hynny.

Yn hytrach, mae’r ysgol yn annog y disgyblion i nodi’r achlysur drwy ddod a’u hoff lyfr i’r ysgol i’w drafod.

Dywedodd  Ema Owen, dirprwy bennaeth yr ysgol, fod rhai rhieni wedi gwario hyd at £40 ar wisg i nodi’r diwrnod.

“Wnaethon ni’r penderfyniad am ein bod ni’n sensitif i’r pwysau sy’n cael ei roi ar rieni i gymryd rhan mewn pethau fel hyn,” meddai.

“Dwi’n meddwl bod rhieni’n teimlo fod pwysau i wario – dwi wedi clywed am bobl sy’n gwario £40 ar wisg arbennig pan does dim rhaid iddyn nhw.

“Mae’n fwy perthnasol nag erioed eleni, gyda’r geiniog yn gwasgu yn sgil yr argyfwng costau byw.”

Cefnogaeth

Mae’r penderfyniad wedi ei groesawu gan lawer o rieni, a gan y Cyngor Llyfrau, sydd yn trefnu Diwrnod y Llyfr.

Ychwanegodd Ms Owen: “Rydym am ddathlu heddiw drwy gydol y dydd mewn sawl ffordd, a bydd y plant yn cael cyfle i drafod eu hoff lyfrau a’u hoff awduron.

“Da’n ni’n gobeithio bydd y disgyblion yn cael eu hysbrydoli i ddarllen llyfrau mae eraill yn eu hargymell – wedi’r cyfan, hanfod Diwrnod y Llyfr ydi annog plant i ddarllen mwy, ac i fwynhau gwneud hynny.

“Mae llawer o’r rhieni wedi bod yn gefnogol i’r penderfyniad.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau: “Mae hyn yn newyddion calonogol iawn.

"Rydym wrth ein boddau i glywed hanesion am ysgolion yn dathlu darllen ac yn annog plant i drafod a rhannu eu hoff lyfrau.

"Bydd aelodau ein Panel Pobl Ifanc hefyd yn rhannu eu hoff lyfr yfory. Cadwch lygad am bostiad ar ein cyfryngau cymdeithasol.

"Ar ein gwefan cewch wledd o syniadau ychwanegol ar sut i ddathlu darllen.”   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.