Cymru i wynebu Croatia, Wcráin a Kosovo i geisio cyrraedd Euro 2025
Bydd Cymru yn wynebu Croatia, Wcráin a Kosovo yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2025.
Dyma fydd y gemau cyntaf lle y bydd rheolwr newydd Cymru, Rhian Wilkinson yn cymryd yr awenau.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf 2024.
Bydd y fformat ar ei newydd wedd yn gweld 15 tîm yn cymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth.
Cafodd y grwpiau rhagbrofol eu rhannu i Gynghrair A, Cynghrair B a Chynghrair C, yn seiliedig ar eu safleoedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Mae pedwar grŵp yng Nghyngrair A, a bydd yr enillwyr a'r timoedd yn ail yn y gynghrair honno yn cymhwyso. Bydd y saith lle sy’n weddill yn cael eu cymryd gan y timau gorau yn yr holl gynghreiriau.
Bydd pob tîm o Gynghrair A sy'n gorffen yn drydydd a phedwerydd yn cymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle.
Mae Cymru yng Nghynghrair B, a bydd y tri thîm gorau ym mhob grŵp yng Nghynghrair B hefyd yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle. Os bydd y Swistir yn gorffen yn y tri uchaf yn eu grŵp, yna bydd y tîm yn y pedwerydd safle gorau o Gynghrair B yn cymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle.
O Gynghrair C, bydd enillwyr y pum grŵp a’r tri a ddaeth yn ail yn cyrraedd y gemau ail gyfle.