Newyddion S4C

Person hynaf Cymru yn dathlu pen-blwydd yn 112 oed

05/03/2024

Person hynaf Cymru yn dathlu pen-blwydd yn 112 oed

Mae person hynaf Cymru wedi dathlu ei phen-blwydd yn 112 mlwydd oed.

Fe gafodd Mary Keir ei geni yn Sir Benfro ar 3 Mawrth, 1912.

Fe ddathlodd ei phen-blwydd gyda'i theulu a ffrindiau yng nghartref gofal Awel Tywi, Llandeilo.

Fel rhan o'r dathliadau, roedd disgyblion o Ysgol Gynradd Ffairfach wedi bod yn canu ambell gân i Ms Keir, mewn eitem deledu arbennig a ddarlledwyd ar raglen Heno ar S4C nos Lun.

Image
plant ysgol

Fe dreuliodd Mary Keir ei phlentyndod yn Nhŷddewi, ac mae'n cofio chwarae gyda'i ffrindiau a threulio amser ar lan y môr.

Fe aeth i Gaerdydd wedyn i weithio fel nyrs yn Ysbyty Llandochau pan agorodd yn y 1930au, cyn symud i Sir Gâr ar ôl priodi, ac ymgartrefu ym mhentref glan môr, Llansteffan.

Y gyfrinach y tu ôl i'w hoedran mawr yw "cadw'n brysur", meddai.

Mae ei diddordebau yn cynnwys gwnïo, garddio a gwneud ei gwin a'u jamiau ei hun, ac mae'n mwynhau gwneud posau a sudoku o hyd ac yn hoff o ganu'r piano.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.