Cyfyngiadau Covid-19 lefel un i barhau yn yr Alban

Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cadarnhau na fydd y wlad yn symud i gyfyngiadau Covid-19 lefel sero tan o leiaf canol Gorffennaf.
Mae’r oedi yma yn golygu fe fydd rhan fwyaf o’r Alban yn parhau i’w fyw o dan gyfyngiadau lefel un, gyda Chaeredin a Glasgow i aros yn lefel dau tan 19 Gorffennaf, yn ôl The Scotsman.
Er hynny, ychwanegodd Nicola Sturgeon y byddai disgwyl i bob rhan o'r wlad symud i lefel sero ar 19 Gorffennaf, gyda llacio "mawr" yn cymryd lle 9 Awst.
Mae 2,167 achosion o Covid-19 wedi eu cadarnhau yn y wlad yn y 24 awr ddiwethaf.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Llywodraeth yr Alban