
'Ti' gan Sara Davies yn ennill Cân i Gymru 2024
Y gân 'Ti' gan Sara Davies sydd wedi ennill Cân i Gymru 2024.
Cafodd y gân ei dewis yn enillydd drwy bleidlais gyhoeddus yn fyw ar raglen Cân i Gymru ar S4C nos Wener.
Sara ei hun oedd yn perfformio’r gân serch yn fyw o Arena Abertawe.
Mae Sara'n ennill £5,000 a thlws newydd Cân i Gymru.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4C/status/1763691166602514740?s=20
Cân serch gan daid Sara i’w nain yw ‘Ti’. Mi ysgrifennodd ei thaid geiriau’r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli, mi aeth Sara ati i gyfansoddi’r gerddoriaeth.
Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes Cerddoriaeth, Drama a Lles yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.
Mae hi’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o’r grŵp 50 Shêds o Lleucu Llwyd.

Roedd y noson yn un "emosiynol" i Sara a’i theulu, meddai.
"Dwi’n speechless! Fydd yr arian yn mynd tuag at ganu, gobeithio, a rhyddhau mwy o ganeuon,” meddai.
Ar ôl lansio cystadleuaeth eleni ym mis Tachwedd 2023, cyrhaeddodd 118 o ganeuon y beirniaid.

Yn ail ac yn ennill £3,000 - roedd 'Goleuni' gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts. Moli Edwards yn perfformio.
Yn drydydd ac yn ennill £2,000 - roedd 'Cysgod Coed' gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands. Gwion Phillips yn perfformio.
'Arbennig'
Ar ddiwedd y noson dywedodd Elin Fflur, oedd yn cyflwyno'r noson ar y cyd â Trystan Ellis Morris: “Llongyfarchiadau mawr i Sara ar ennill Cân i Gymru 2024!
“Mae hon yn gystadleuaeth arbennig iawn sy’n gallu newid gyrfaoedd. Mae’n uchafbwynt cerddorol ac yn binacl yng nghalendr S4C bob blwyddyn.
“Ac am flwyddyn i ennill – mewn lleoliad newydd gyda thlws newydd sbon hefyd! Llongyfarchiadau mawr – dwi’n edrych ymlaen i weld be ddaw gan Sara yn y dyfodol.”
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr oedd Cadeirydd panel y beirniaid a bu’n mentora'r cystadleuwyr hefyd.

Y beirniaid oedd y gantores a'r gyfansoddwraig Bronwen Lewis, y DJ a'r cyflwynydd Dom James, y gantores a'r berfformwraig West End Mared Williams a'r cerddor Carwyn Ellis.
Y bum gân arall a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd:
Heno - Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Perfformio: Elin Hughes
Yr Un Fath - Cyfansoddi a pherfformio: Jacob Howells
Cymru yn y Cymylau - Cyfansoddi: Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry. Perfformio: Lowri Jones
Mêl - Cyfansoddi a pherfformio: Owain Huw a Llewelyn Hopwood
Pethau yn Newid - Cyfansoddi a pherfformio: Siôn Rickard