Newyddion S4C

Diwrnod naid: Ffrindiau'n dathlu troi'n 28 oed ar eu seithfed penblwydd

29/02/2024

Diwrnod naid: Ffrindiau'n dathlu troi'n 28 oed ar eu seithfed penblwydd

Bob pedair blynedd, mae Elin Jones a David Elphick yn dathlu diwrnod pwysig iawn iddyn nhw.

Fe gafodd y ffrindiau, sy’n wreiddiol o Gynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin, eu geni ar 29 Chwefror 1996 – a hynny’n ddiwrnod naid. 

Ac wrth nodi blwyddyn naid eleni, mae’r pâr yn edrych ymlaen at ddathlu eu penblwydd “go iawn” unwaith eto. 

“Pan mae blwyddyn naid yn dod rownd fi’n teimlo’n lot mwy cyffrous oherwydd fi actually gallu dathlu yn iawn,” meddai David Elphick wrth siarad â Newyddion S4C. 

“Fi’n teimlo’r un peth, mae fe’n sbesial” ychwanegodd Elin Jones. 

“Mae’n ddiwrnod sbesial i ni felly ‘dyn ni’n meddwl bod pawb yn gwybod amdano fe, ond dyw nhw ddim,” meddai. 

Image
David ac Elin

'Rhyfedd'

Mae’r ffrindiau yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r bobl brin hynny sy’n dathlu eu penblwydd swyddogol bob pedair blynedd, fel maen nhw’n eu gwneud.

“Mae pobl yn ‘nabod am babis sy’n cael eu geni ar y flwyddyn newydd y calennig ond dim ar blwyddyn naid,” meddai Elin.

“Bydde fe’n neis i gael fwy o pethe’ ar-lein neu ar y teledu amdano fe’n bendant.

“Fi’n cytuno,” meddai David, “sai’n credu bod lot o bobl yn hyd yn oed gwybod amdano fe.”

Ond nid dyma yw’r tro gyntaf i’r pâr siarad am eu profiad o ddathlu eu penblwydd ar ddiwrnod naid, wedi iddyn nhw ymddangos ar raglen S4C Heno ar eu penblwydd swyddogol cyntaf ar 29 Chwefror 2000, yn blant pedair oed. 

Image
David Elphick ac Elin Jones
David Elphick ac Elin Jones yn dathlu eu penblwydd ar raglen Heno ar 29 Chwefror 2000

Ac er eu bod bellach yn 28 oed, mae’r ddau yn dathlu eu penblwydd swyddogol am y seithfed tro yn unig yn ystod eu bywydau eleni.

Mae’r profiad yn “rhyfedd iawn,” meddai’r hen ffrindiau o ysgol gynradd Cynwyl Elfed. 

Dywedodd David: “Ni gallu mynd mas i’r tafarn, mae’n teimlo’n bach yn rhyfedd.

“Chi’n prynu drinks ond chi’n saith mlwydd oed – mae fe jyst yn teimlo’n rhyfedd iawn. 

“Chi’n gallu gyrru car a popeth ond yn swyddogol, chi’n jyst saith oed.” 

'Perthynas gwahanol'

Mae’r ffrindiau yn “falch” o allu rhannu’r penblwydd unigryw gyda’i gilydd, ac mae gan y ddau “berthynas wahanol” oherwydd hynny, meddai.

“Mae fe ddim yn penblwydd normal rili,” meddai Elin.

“Fi’n gwybod bod lot o bobl yn cael eu penblwydd ar yr un diwrnod ond i gael rhywun yn agos i chi sy’n cael yr un penblwydd, mae fe’n neis.”

Ond nid dathlu’r un dyddiad yw’r drefn arferol pan nad yw’n flwyddyn naid chwaith.

Esboniodd Elin: “Odd mam fi ‘di dewis yr 28ain [o Chwefror] a meddyliad hi oedd gallwn i dewis pwy ddiwrnod o’n i mo'yn cael fy mhenblwydd.

“Ond fi ‘di cadw e i’r 28ain achos mae mam, mam-gu fi – ‘odd penblwydd hi’r un diwrnod,” esboniodd Elin.

Dywedodd David: “Odd dim penderfyniad ‘da fi. Odd mam ‘di dweud fuoch chi ddim yn fyw ar y 28ain felly chi’n dathlu eich penblwydd ar y diwrnod wedyn os mae fe ddim yn flwyddyn naid.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.