Oedi cynlluniau ffyrdd newydd Cymru er mwyn cynnal adolygiad

Nation.Cymru 22/06/2021
Gwaith ffordd
Gwaith ffordd

Fe fydd cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu hoedi er mwyn cynnal adolygiad i'r prosiectau.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, fod angen "torri allyriadau carbon yn sylweddol".

Mae'r cynlluniau sydd wedi eu hoedi yn cynnwys pont newydd dros Afon Menai a ffordd osgoi Llandeilo, yn ôl Nation.Cymru.

Mae disgwyl i'r adolygiad gael ei gyhoeddi yn y Senedd yn ddiweddarach dydd Mawrth.

Gallwch ddarllen mwy am y cyhoeddiad yma.

Llun: Jaggery (drwy geograph)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.