'Rhedeg 7km y dydd am saith wythnos i helpu plant mewn gofal'
'Rhedeg 7km y dydd am saith wythnos i helpu plant mewn gofal'
Mae menyw sy'n wreiddiol o Sir Gâr wedi dechrau her ddyddiol o redeg 7km am saith wythnos ar gyfer achos sy'n agos iawn at ei chalon.
Mar Elisa Jenkins sy'n wreiddiol o Borth-y-rhyd yn casglu arian er budd elusen Become.
Mae Become yn elusen genedlaethol ar gyfer plant sydd mewn gofal, ac yn gweithio i gefnogi unigolion sydd hefyd yn gadael gofal.
Mae Elisa ei hun wedi ei mabwysiadu, a bellach yn byw a gweithio fel cyfreithwraig sy'n arbenigo yn y maes hawliau plant ac addysg yn Llundain.
Wrth siarad mewn eitem ar raglen Heno ar S4C, dywedodd Elisa fod yr elusen Become "yn agos iawn i fy nghalon, oherwydd o'n i wedi hala blynyddoedd cyntaf fy mywyd mewn gofal fy hunan," a hynny cyn iddi gael ei mabwysiadu gan gwpwl yn Sir Gâr.
"Mae plant mewn gofal yn rhai o'r plant mwyaf vulnerable yn y gymuned," meddai.
"Yn y Deyrnas Unedig ar y foment mae tua 107,000 o blant mewn gofal, a mae lot o nhw ddim gyda'r cyfleusterau na'r gwasanaethau i helpu nhw gydag addysg neu swyddi, neu hyd yn oed gwasanaethau emosiynol.
"Mae elusennau fel hyn yn helpu i agor drysau i lot o blant.
"Ar y funud dwi ddim ond wedi rhoi targed o £500 i godi, ond bydden i'n hoffi codi mwy, ond mae unrhyw beth yn helpu
"O'n i'n lwcus achos bo fi wedi cael fy mabwysiadu, so on'ni ddim yn gorfod bod yn y system am rhy hir, ond mae lot o blant ddim yn cael yr un cyfle," ychwanegodd Elisa.