Newyddion S4C

Rishi Sunak yn ymweld ag Ynys Môn: ‘Rhoi bywyd newydd i gymunedau’

22/02/2024
Rishi Sunak

Mae Rishi Sunak wedi dweud fod ei lywodraeth yn “rhoi bywyd newydd i gymunedau” wrth iddo ymweld ag Ynys Môn ddydd Iau.

Bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â pheirianwyr ym Môn sydd yn gweithio ar gynllun y Llywodraeth i ddarparu rhyngrwyd gigabit cyflymach ar draws y rhanbarth.

Fel rhan o ymweliad dau ddiwrnod â’r gogledd, bydd yn ymweld â busnesau a chymunedau gwahanol, sydd wedi ei drefnu er mwyn gweld yr effaith mae cyllideb o Gronfa Codi'r Gwastad yn ei gael.

Bydd hefyd yn trafod addewid y llywodraeth i fuddsoddi £1 biliwn i drydanu rheilffordd gogledd Cymru, a chreu porthladd rhydd yng Nghaergybi.

Dywedodd Mr Sunak: “Pwrpas y Gronfa Codi'r Gwastad yw rhoi gwell cyfleoedd i bobl weithio, teithio a theimlo’n falch o ble maen nhw’n byw.

“Rydym yn rhoi bywyd newydd i gymunedau ar draws gogledd Cymru trwy wella cysylltiadau’r rhyngrwyd, creu porthladd rhydd newydd sbon, rhoi mwy o arian ar gyfer y stryd fawr a buddsoddi £1 biliwn yn rheilffyrdd Gogledd Cymru.”

'Methu'

Dywedodd Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Cysgodol Llafur Cymru, nad oedd Cymru yn cael digon o sylw gan lywodraeth Geidwadwol y DU o hyd.

“Bydd Rishi Sunak yn cyrraedd Ynys Môn i ddarganfod bod 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol wedi sicrhau bod rhyngrwyd gigabit yr ynys ymysg y gwaethaf gyda chyflymder sydd bron i hanner cyfartaledd y DU,” meddai.

“Mae Cymru yn parhau i fod yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried ar ôl popeth arall i’r Ceidwadwyr. Llafur yn unig fydd yn llywodraethu er budd y Deyrnas Unedig gyfan.”

Dywedodd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, bod  record Llywodraeth Geidwadol San Steffan ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru "ymhell o fod yn rhagorol".

“Mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd wedi methu â rhoi unrhyw ran o’r £3.9 biliwn mewn cyllid HS2 sy’n ddyledus i Gymru, ac wedi cyflwyno addewid munud olaf a difeddwl i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru gyda chyllid ymhell islaw’r hyn sydd ei angen i'w gyflawni'r prosiect mewn gwirionedd," meddai.

“Ymhellach mae’r Prif Weinidog wedi methu ar yr economi, gyda chwyddiant yn dal dwbl targed Banc Lloegr a biliau ynni ar gyfartaledd 59% yn uwch na dwy flynedd yn ôl."

Llun: Joe Giddens/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.