Rhyddhau dyn a dynes wedi cyhuddiad o atal claddu dau faban yn weddus
Mae dyn a dynes wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu cyhuddo o atal claddu dau fabi yn weddus yn ne Cymru.
Mae Zilvinas Ledovskis, 48, ac Egle Zilinskaite, 30, wedi’u cyhuddo o ddau gyhuddiad o guddio genedigaeth plentyn a dau gyhuddiad o atal claddu corff marw yn gyfreithlon a gweddus.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â darganfod dau fabi mewn cartref ym Maes-Y-Felin, Wildmill, Pen-y-bont ar Ogwr, ym mis Tachwedd 2022.
Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, lle buon nhw’n siarad trwy gyfieithydd i gadarnhau eu henwau a’u cyfeiriadau, a’u bod nhw’n deall y cyhuddiadau.
Fe fyddan nhw’n ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 19 Mawrth.
Mae’r diffynyddion bellach yn byw ar wahân, gyda Ledovskis yn byw yn Abertawe a Zilinskaite yng Nghaerdydd.
Mae’r ddau wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth amodol ac maen nhw wedi cael gorchymyn i ildio eu pasbortau ac i beidio â chysylltu â'i gilydd.