Newyddion S4C

Ymgyrchwyr yn mynd i’r llys i geisio atal datblygiad pentref gwyliau ym Môn

20/02/2024
Parc Penrhos Caergybi (JD Media Film)

Fe fydd ymgyrchwyr yn mynd i’r llys er mwyn ceisio ennill yr hawl i newid penderfyniad i ganiatáu datblygiad pentref gwyliau dadleuol yng Nghaergybi.

Ers 2012, mae cwmni Land and Lakes wedi cyflwyno cais cynllunio i godi 500 o fythynnod gwyliau a phwll nofio fel rhan o bentref hamdden ar safle Parc Arfordirol Penrhos ar Ynys Cybi.

Cafodd caniatâd ei roi gan Gyngor Môn yn 2016 ac er bod gwaith cychwynnol wedi ei wneud yno, mae’r datblygwyr wedi dweud fod “oedi” ar y gwaith datblygu llawn wrth i’r cwmni “ddisgwyl i heriau presennol yn economi'r DU leddfu.”

Ddydd Sul, daeth cyhoeddiad gan grŵp sydd yn gwrthwynebu’r datblygiad, Achub Parc Arfordirol Penrhos, bod cais gan un o’u harweinwyr, Hilary Paterson-Jones, i gyflwyno cais yn y llys am yr hawl i gynnal adolygiad barnwrol i benderfyniad y Cyngor Sir, wedi ei dderbyn.

Os yw’r cais yn cael ei ganiatáu yn y llys, mae’r grŵp yn gobeithio herio’r penderfyniad mewn adolygiad barnwrol “o fewn yr wythnosau nesaf”, ar sail “anghyfreithlondeb, afresymoldeb ac amhriodoldeb gweithdrefnol”.

Bydd yr achos yn cael ei glywed yn Uchel Lys Caerdydd ar ddydd Mawrth 27 Chwefror.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadarnhau y bydd yr awdurdod yn cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad ac “yn chwilio i ddigolledu ychydig o'r costau o amddiffyn y mater”.

‘Anghywir’

Mae’r parc, sydd yn dros 260 o aceri mewn maint, wedi bod yn agored i’r cyhoedd ers 1971 a bellach yn denu 100,00 o ymwelwyr y flwyddyn, yn ôl Coed Cadw.

Mae grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos yn honni y byddai’r gwaith i adeiladu’r pentref gwyliau yn “dinistrio” natur a’r bywyd gwyllt ar y safle.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Paterson-Jones, ei bod yn barod i “frwydro” dros ddiogelu’r parc tan ei “hanadl olaf”.

Image
Hilary Paterson-Jones
Hilary Paterson-Jones

“Os byddai’r cais yma yn cael ei gyflwyno heddiw, does dim siawns y byddai’n cael ei basio. Mae Penrhos ar dir gwarchodedig ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

“Maen nhw’n bwriadu torri lawr ardal 27 acr o goed – sydd yn gwbl groes i bolisïau Llywodraeth Cymru.

"Da ni’n sôn am goed sydd yn gannoedd o flynyddoedd oed, a’r unig goetir ar Ynys Cybi.

“Pam ydyn nhw yn ceisio tynnu Penrhos i ffwrdd o’r cyhoedd? Mae’n gwbl warthus - dinistrio natur a lladd ein bywyd gwyllt. Bob dydd mae hyn yn mynd yn ei flaen, dw i yn cwffio ychydig yn galetach.”

Cefnogaeth

Mae’r grŵp yn dweud eu bod eisoes wedi casglu dros £40,000 er mwyn talu am gostau cyfreithiol i gyflwyno’r cais.

Ond ar ôl darganfod bod eu cais wedi ei dderbyn, clywodd bod rhaid iddyn nhw dalu dwbl eu costau cyfreithiol, ar gais y Cyngor.

Y rheswm am hynny yw eu bod yn grŵp ymgyrch sydd yn gallu codi arian eu hunain, ac roedd gan yr awdurdod yr hawl i wneud y cais.

Ar ôl lansio apêl i godi’r arian ychwanegol ar gyfryngau cymdeithasol nos Sul, fe lwyddodd y grŵp i ddenu dros £10,000 o fewn 36 awr.

Er hynny, mae Ms Paterson-Jones yn dweud y bydd yn rhaid iddi hi ysgwyddo’r baich ariannol pe bai’n colli’r achos.

“Does ‘na ddim llawer o bres o gwmpas ar y funud, mae pawb yn stryglo am bres. 

Image
Ymgyrchwyr y tu allan i adeilad Gyngor Sir Ynys Môn yn 2023
Ymgyrchwyr y tu allan i adeilad Gyngor Sir Ynys Môn yn 2023

“Ac eto, mae dros £10,000 wedi dod i mewn, mewn just dros 24 awr, ac mae hynny yn dangos pa mor gryf mae pobl yn teimlo dros Benrhos.

“Fe alla’i golli fy mhres fy hun, ond dyna pa mor bell rydw i’n barod i fynd. Mae pobl yn gofyn wrthaf i, ‘be mae Penrhos yn golygu i ti?’, a fedra’i ddim egluro.

“Mae fy atgofion cyntaf o gerdded ym Mhenrhos gyda fy rhieni, sydd ddim hefo ni bellach. Mae llwch fy mrawd yno, mae llwch fy mam yno, ac mi ydw i’n mynd yna bob dydd efo fy nghŵn, ym mhob tywydd.

“Wnawn ni ddim rhoi i fyny. Os dydi o ddim yn mynd ein ffordd ni ar 27 Chwefror, nawn ni apelio eto – a pharhau i apelio nes ein bod ni yn ennill.

“Os mae’n rhaid i ni dal ein dwylo ac amgylchynu Penrhos, nawn ni ei warchod tan ein hanadl olaf. Mae pawb wedi dweud yr un peth.

“Mae hyn wedi cymryd fy mywyd i fyny, i fod yn onest. Fe ofynnodd fy mhlant i mi ryw bryd, ‘fyset ti’n meddwl stopio hyn?’ a ‘na’ oedd yr ateb. 

“Dim i fi mae hyn, ond i genedlaethau'r dyfodol. Pam ydyn ni wedi cael cerdded yno ers mor hir, ond ei bod yn cael eu cymryd i fwrdd ohonyn nhw?”

Ymateb y cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Bydd gwrandawiad yng Nghaerdydd ar 27 Chwefror ble bydd yr ymgyrchwyr yn adnewyddu eu cais am adolygiad barnwrol wedi i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod gan y Llys.

“Bydd y Cyngor yn cael ei gynrychioli ac, fel bob awdurdod cyhoeddus cyfrifol arall, byddwn yn chwilio i ddigolledu ychydig o'r costau o amddiffyn y mater os bydd yn llwyddiannus. 

“Fodd bynnag, mater i'r Llys fydd gwneud unrhyw orchymyn am gostau."

Yn ôl datganiad ar wefan Land and Lakes, "cafwyd dechreuad effeithiol i’r datblygiad ym Mhenrhos yn 2021, sy’n golygu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle bellach yn cael ei gadw am byth. 

“Mae datblygiad ar raddfa lawn wedi’i oedi wrth inni aros i’r heriau presennol yn economi’r DU leddfu. Bydd diweddariadau pellach ar gael yn 2024.”

Llun: JD Media Film

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.