Mwy o Gavin and Stacey?
Mae adroddiadau yn America yn awgrymu y bydd y gyfres deledu Gavin and Stacey yn dychwelyd ar gyfer rhaglen arbennig ym mis Rhagfyr eleni.
Mae'r cyhoeddwyr Americanaidd, Deadline, yn dweud y bydd pennod newydd yn cael ei ffilmio dros yr haf, gyda'r bwriad o'i darlledu adeg y Nadolig.
Y tro diwethaf i ni weld cymeriadau'r gyfres ar ein sgriniau oedd ar gyfer rhaglen Nadolig arbennig yn 2019, naw mlynedd wedi i'r gyfres wreiddiol ddod i ben.
Mae BBC Studios wedi gwrthod cadarnhau eu cynlluniau ar hyn o bryd.
Wrth siarad ym mis Awst y llynedd, dywedodd Alison Steadman, sy'n chwarae cymeriad Pam, a Larry Lamb, sy'n chwarae rhan cymeriad Mick eu bod yn agored i raglen Nadolig arbennig arall.
"Byddai rhaglen arbennig yn llawer o hwyl ac ni fyddai'n rhy flinedig," meddai Alison Steadman wrth Radio Times.
Dywedodd Larry Lamb: “Fe fyddai awr arbennig, sef tair wythnos o waith dwys iawn, yn gweithio i mi.”
Mae un o awduron y gyfres, sydd hefyd yn chwarae'r cymeriad 'Nessa' hefyd wedi dweud ei bod yn "agored" i weld Gavin and Stacey yn dychwelyd.
Ym mis Medi 2022, fe ddywedodd Ruth Jones, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, ar raglen Lorraine ar ITV ei bod hi’n ffyddiog y bydd hi a James Corden yn cyd-ysgrifennu eto yn y dyfodol.
Mae rhan helaeth o'r gyfres wedi ei lleoli yn ardal Bro Morgannwg, lleoliadau ffilmio sy'n cynnwys Ynys Y Bari a Dinas Powys.