Newyddion S4C

Llafur yn tynnu ei chefnogaeth yn ôl i'w hymgeisydd is-etholiad Rochdale yn dilyn sylwadau am Israel

13/02/2024

Llafur yn tynnu ei chefnogaeth yn ôl i'w hymgeisydd is-etholiad Rochdale yn dilyn sylwadau am Israel

Mae'r Blaid Lafur wedi tynnu ei chefnogaeth yn ôl i ymgeisydd is-etholiad Rochdale, Azhar Ali, yn dilyn sylwadau a wnaeth am Israel.

Mae Mr Ali wedi ymddiheuro ar ôl iddo gael ei recordio yn awgrymu mewn cyfarfod Llafur yn Sir Caerhirfryn fod Israel wedi cymryd ymosodiad Hamas ar Hydref 7 fel esgus i oresgyn Gaza.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: “Ar ôl i wybodaeth newydd am sylwadau pellach a wnaed gan Azhar Ali ddod i’r amlwg heddiw, mae’r Blaid Lafur wedi tynnu ei chefnogaeth yn ôl i Azhar Ali fel ein hymgeisydd yn is-etholiad Rochdale.

“Mae Keir Starmer wedi newid Llafur fel ei bod yn anadnabyddadwy o blaid 2019.

“Rydym yn deall bod y rhain yn amgylchiadau hynod anarferol, ond mae’n hollbwysig bod unrhyw ymgeisydd a gyflwynir gan Lafur yn cynrychioli ei werthoedd yn llawn.

“O ystyried bod yr enwebiadau bellach wedi cau, ni ellir disodli Azhar Ali fel yr ymgeisydd.”

Roedd Llafur wedi dod o dan bwysau ar ôl i’r sylwadau blaenorol ddod i’r amlwg, gyda’r sylwadau’n cael eu condemnio o fewn y blaid yn ogystal â gwrthwynebwyr gwleidyddol.

Symud ymlaen efo Starmer

Yn dilyn blynyddoedd o ddadleuon dros wrthsemitiaeth yn ystod cyfnod Jeremy Corbyn fel arweinydd, mae Keir Starmer wedi ceisio symud ei blaid ymlaen o'r hyn yr oedd yn 2019.

Ond roedd arweinwyr Llafur wedi cael eu pwyso ar pam nad oedd Mr Ali wedi ei wahardd yn syth ar ôl i'r sylwadau ddod i'r amlwg.

Yn ddiweddar fe gafodd yr Aelod Seneddol Kate Osamor ei wahardd ar ôl iddi awgrymu y dylai rhyfel Gaza gael ei gofio fel hil-laddiad ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost.

Deallir bod Mr Ali bellach wedi'i wahardd o'r blaid Lafur tra'n disgwyl ymchwiliad gan y blaid.

Fe fydd y penderfyniad i dynnu cefnogaeth i’r ymgeisydd yn ôl yn ergyd i’r blaid, oedd wedi gobeithio cadw’r sedd yn dilyn marwolaeth yr AS presennol Syr Tony Lloyd fis diwethaf.

Mae Mr Ali, sydd hefyd yn Gynghorydd Sir Gaerhirfryn, wedi ymddiheuro i’r gymuned Iddewig ac wedi tynnu ei sylwadau yn ôl, gan eu disgrifio fel rhai “sarhaus iawn, anwybodus a ffug”.

Os caiff ei ethol, bydd Mr Ali yn eistedd fel AS annibynnol ac ni fydd yn derbyn chwip y blaid.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd angen i Lafur hefyd ddod o hyd i ymgeisydd newydd i gystadlu'r sedd yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod.

Rhestr ymgeiswyr yn llawn

  • Azhar Ali - Llafur

  • Y Parchedig Mark Coleman - Annibynnol

  • Simon Danczuk - Reform UK

  • Iain Donaldson - Democratiaid Rhyddfrydol

  • Paul Ellison - Ceidwadwyr

  • George Galloway - Workers Party of Britain

  • Michael Howarth - Annibynnol

  • William Howarth - Annibynnol

  • Guy Otten - Y Blaid Werdd

  • Ravin Rodent Subortna - Monster Raving Loony Party Swyddogol

  • David Anthony Tully - Annibynnol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.