Newyddion S4C

Beiriniadaeth chwyrn o Donald Trump gan Nato wedi ei sylwadau am Rwsia

11/02/2024
donald trump.jpg

Mae Nato wedi beirniadu sylwadau Donald Trump yn hallt wedi iddo ddweud y byddai'n fodlon i Rwsia wneud beth bynnag yr oeddynt eisiau gydag aelodau'r gynghrair filwrol oedd ddim yn talu digon o gyfraniad ariannol.

Mewn rali yn Ne Carolina oedd yn rhan o'i ymgyrch am arlywyddiaeth yr UDA ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Trump y byddai'n cefnogi unrhyw gamau gan Rwsia i ymosod ar unrhyw aelod o Nato nad oedd yn talu eu ffordd.

Mae'r Tŷ Gwyn wedi condemnio'r sylwadau fel rhai "gwarthus a gwallgof".

Wrth annerch y dorf, dywedodd Donald Trump fod arweinydd "gwlad fawr" wedi awgrymu sefyllfa lle'r oedd aelod o Nato ddim yn cyfrannu i'r gynghrair ac yn dioddef ymosodiad gan Rwsia.

Ychwanegodd fod yr arweinydd wedi gofyn iddo os byddai'r UDA yn sefyll yn y bwlch ac yn amddiffyn y wlad dan sylw.

"Fe ddywedais: "Wnaethoch chi ddim talu? Ydych chi'n esgeulus?...'Na, fyddwn i ddim yn eich amddiffyn, mewn gwirionedd fe fyddwn yn eu annog i wneud beth bynnag yr oeddynt am ei wneud. Rhaid i chi dalu."

Mae ysgrifennydd cyffredinol Nato, Jens Stoltenberg, wedi dweud ei fod yn disgwyl i “o leiaf hanner” ei aelodau gyrraedd targed gwariant o 2% o’u cynnyrch domestig gros (GDP) ar amddiffyn.

“Mae Nato yn fargen dda i’r Unol Daleithiau. Trwy Nato, mae gan yr Unol Daleithiau fwy o ffrindiau a chynghreiriaid nag unrhyw bŵer arall, ”meddai yn ystod taith i Washington fis diwethaf. 

Gan annog yr Unol Daleithiau i ailddatgan eu hymrwymiad i’r gynghrair, ychwanegodd y byddai Nato rhanedig yn golygu “mae pŵer yr Unol Daleithiau yn lleihau”.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.