'Yn union fel Nadolig': Miloedd yn dathu dechrau'r Flwyddyn Newydd Tsieiniaidd
Mae degau o filoedd o bobl wedi bod mewn digwyddiaddau i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ledled y DU.
Blwyddyn y ddraig yw hi eleni - ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r blynyddoedd mwyaf pwerus ac addawol yn y Sidydd (Zodiac) Tsieineaidd, sy'n symbol o gryfder, cyfoeth a llwyddiant.
Yn Llundain roedd na berfformiadau lliwgar gyda gwisgoedd cywrain, dawnsio llewod, perfformwyr Tsieineaidd, stondinau bwyd stryd ynghyd â chelf a chrefft Tsieineaidd yn ardal Chinatown o'r ddinas wrth i'r trefnwyr gynnal diwrnod o weithgareddau i’r teulu.
Dywedodd Peter Yick Kuen Lam, llywydd Cymdeithas Tsieineaidd Chinatown Llundain (LCCA) a drefnodd yr ŵyl i groesawu Blwyddyn y Ddraig: “Mae’n bwysig iawn i ni. Mae'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn union fel y Nadolig.
“Mae’n ddigwyddiad arbennig iawn i’r gymuned Tsieineaidd ac yn gyfle i ni gael cyfnewid diwylliannol da.
“Gallwn rannu ein llawenydd gyda phawb. Mae'n gyfle i ddathlu."
Ychwanegodd: “Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig ar gyfer ymgynnull.
“Mae'r cyfan yn goch oherwydd mae coch yn lliw lwcus, mae'r cyfan yn goch ac yn aur. “
Rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi hapusrwydd i bawb a dechrau blwyddyn newydd lewyrchus. Mae heddwch a hapusrwydd yn arbennig o bwysig.”
Mae disgwyl i fwy na 500,000 o bobol fwynhau dathliadau’r diwrnod, meddai’r trefnwyr.
Llun: PA