Newyddion S4C

Pryderon am gynydd i dreth y cyngor yn Sir Benfro

08/02/2024

Pryderon am gynydd i dreth y cyngor yn Sir Benfro

Am y tro cyntaf, mae'r twll du ariannol sydd yn wynebu Cyngor Sir Penfro yn glir i bawb ei weld wrth i'r ffigyrau gael eu datgelu ym mhapurau'r cabinet fydd yn cwrdd wythnos nesaf.

Gerbron yr aelodau fydd yna dri chynnydd enfawr posib yn lefelau treth y cyngor i geisio llenwi bwlch ariannol eleni o £31m a mwy.

Fe fydd cabinet Cyngor Sir Penfro yn trafod tri opsiwn posib. Cynnydd o dros 16%, sy'n golygu £4.20 ychwanegol ar filiau wythnosol ar gyfer tai ym Mand D. Mae'r ail opsiwn yn gynnydd o 19% sy'n golygu £4.88 ychwanegol bob wythnos, a'r opsiwn ola cynnydd o bron i 21% yn golygu £5.40 ychwanegol ar filiau bob wythnos.

Fe fydd yna doriadau hefyd i bethau fel cyllidebau ysgolion a son am gasglu sbwriel unwaith y mis fel ffordd o arbed arian. Yn y siopau lleol ym Mlaenffos ac yng Nghrymych doedd neb yn fodlon derbyn bod angen y fath gynnydd.

"Ni mewn ardal amaethyddol a gwledig fan hyn. Mae amaeth mewn llanast ar hyn o bryd gyda'r polisïau, TB. Mae cynnydd o 21% ddim yn gynaliadwy. Dyw cyflogau ddim gyda ni yn yr ardal yma. Sa i'n gwybod shwt mae pobl yn mynd i fforddio fe."

"Ni'n stryglan fel mae fe. Dw i'n stryglan 'da'r missus ar y foment. Dw i'n teimlo mor ddiflas 'da popeth sy'n mynd ymlaen. Dw i'm yn meddwl bydd pobl yn hapus iawn, mae'n godiad mawr iawn mewn un flwyddyn."

"Ar yr ifanc mae'n bwrw fwyaf. Mae rhywun wedi ffarmo ei oes. Mae rhywbeth bach 'da fe tu cefn. Ond meddyliwch am y bobl ifanc yn dechrau bywyd ar ben eu hunain fel teulu newydd."

Mae dau o gynghorwyr annibynnol y Sir sydd ar feinciau'r gwrthbleidiau - ddim yn cefnogi cynnydd mor fawr.

"Alla i weud nawr, fydda i ddim yn cefnogi dim un o'r tri cynnig. Dw i ddim yn gallu gweld bydd y grwp annibynnol hefyd. Mae teuluoedd cefn gwlad yn Sir Benfro. Maen nhw'n byw mewn sefyllfa ariannol tynn iawn. Gallan nhw byth â fforddio'r fath gynnydd yn nhreth y cyngor. Mae'n amhosib iddyn nhw."

"Mae'r Cyngor yn dweud bod y sefyllfa ariannol yn ofnadwy a bod rhaid gwneud rhywbeth i lenwi'r twll du ariannol. Peth arbennig dylen nhw falle gwneud yw dim gwastraffu arian ar bethau fel y maes parcio yn Hwlffordd a'r instagrammable bridge sydd yng nghanol y dref. Dw i'n erbyn rhain yn hollol. Sa i'n deall pam maen nhw'n hala shwt gymaint o arian. Gwastraffu arian."

Doedd arweinydd y Cyngor, David Simpson, ddim ar gael i'w gyfweld. Ond dywedodd y Cyngor eu bod nhw'n wynebu pwysau digynsail o ran chwyddiant, gyda £15m yn ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau plant a chymdeithasol.

Gan taw Sir Benfro sydd â'r lefel isaf o dreth gyngor yng Nghymru mae bob cynnydd o ran canran yn darparu llai yn ariannol na chynghorau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £25 miliwn ychwanegol ar gael yng Nghymru ar ol i gynghorau Lloegr gael £500m.

Fe fydd angen cefnogaeth dros 30 o gynghorwyr fis Mawrth i basio'r gyllideb yn Sir Benfro. Mae yna farc cwestiwn ar hyn o bryd am hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.