Newyddion S4C

Pleidleiswyr Llafur Ifanc yn barod i ddewis Prif Weinidog newydd Cymru

08/02/2024

Pleidleiswyr Llafur Ifanc yn barod i ddewis Prif Weinidog newydd Cymru

Dau ymgeisydd ond yr un yw'r nod. Dod yn arweinydd Llafur Cymru a'n Prif Weinidog nesa ni. Hyd yma yn y ras mae'n ymddangos nad oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng y ddau ymgeisydd o safbwynt polisi.

Addewidion i daclo rhestrau aros polisïau gwyrdd ynghyd a chryfhau datganoli. Mae gan y ddau gefnogaeth sy'n gwneud hi'n anodd gweld pwy sydd ar y blaen.

Ni fydd gan bawb yn yr etholiad yma bleidlais. Aelodau'r Blaid Lafur yn unig fydd yn cael dewis. O hynny, aelodau Seneddol yn y Bae i aelodau San Steffan i'r undebau, a'r aelodaeth ar lawr gwlad hefyd. Mae hynny'n cynnwys pobl ifanc sy'n aelodau rhwng 14 a 27 oed.

"Cyn edrych ar y polisïau a sut maen nhw'n edrych yn y media dw i'n edrych ar y person ei hunain.

"Dw i wir yn meddwl bod Jeremy efo'r qualities ni moyn fel arweinydd. Mae o wedi buddsoddi £2.5 miliwn yn fwy i mental health pobl ifanc mewn ysgolion.

"Mae o 'di dod a'r bleidlais i bobl 16 ac 17. Dw i'n teimlo bod ni angen edrych i ffwrdd o ydy e'n berson hoyw gynta."

Ond yn symbolaidd felly?

"Ydy, mae e'n rili symbolaidd ond dydy hynny'm yn neud e'n arweinydd gwahanol."

Ond i eraill, Vaughan Gething fyddai'n well ganddyn nhw.

"Dw i ddim yn supportio fe dim ond ar y ffaith bod mae e'n ddu ond mae hwnna'n ffactor da. Mae'n ffactor mawr i fi oherwydd mae e wedi cael firsthand experience gyda hiliaeth.

"Pan oedd e'n ifanc fel fi rhwng yr un oedran a fi. Os bydd unrhyw un yn gwybod sut i ddelio gyda hiliaeth sydd yn digwydd llawer yng Nghymru, fe yw'r dyn i wneud e."

Does dim menyw yn y ras. I un aelod ifanc sydd hefyd yn ymgeisio dros Ddwyfor-Meirionnydd yn yr etholiad cyffredinol, mae'r blaid wedi colli cyfle.

"Mae o'n siomedig bod dim mwy o fenywod yn teimlo bod nhw'n gallu bod yn y swydd mwy arweinyddol. Dw i'n deall pam dydy menywod ddim yn trio bod yn arweinydd.

"Wnes i ffeindio fo'n anodd neud y penderfyniad i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad eleni. Dw i'n gwybod sut mae'r bygythiad ar-lein. Dw i'n cefnogi Vaughan Gething am nifer o resymau.

"Dw i'n meddwl bod cynrychiolaeth sy'n adlewyrchu pobl wahanol o fewn cymdeithas yn bwysig."

I'r ddau sy'n gobeithio camu i esgidiau Mark Drakeford beth yw'r neges i bobl ifanc felly?

"To be successful in Wales to make sure we don't have to get out to get on. But also to listen to the hopes and ambitions of young people. The sort of country that we want to grow up in and create together and to make sure our future doesn't need to cost the future."

"Rwy'n credu bod gyda fi syniadau newydd, ffres a ffyrdd newydd o weithio hefyd fydd yn cynnig cyfle da i Gymru dros y cyfnod nesa."

Gwaith llafurus felly fydd apelio at aelodaeth eang y blaid gyda disgwyl i 16,000 fwrw pleidlais.

A phwy bynnag fydd yn camu i'r adwy fel arweinydd bydd aelodaeth ifanc y blaid hon yn rhan o ddewis Prif Weinidog nesa Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.