Newyddion S4C

'Cyfeillgarwch ac amynedd': Y siop trin gwallt sy'n cynnig gwasanaeth arbennig i blant ag anghenion

09/02/2024
siop gwallt.png

"Roeddwn i'n gorfod rhedeg ar ei ôl, gorwedd ar y llawr gyda fe. Mae'r rhan fwyaf o drinwyr gwallt yn ei weld fel her, ond i mi mae'n diwrnod arall, dwi'n caru gwneud hyn."

Mae Teri Lancey wedi bod yn torri gwallt ers nifer o flynyddoedd  yn Waunarlwydd, Abertawe, ac mae pobl o hyd a lled de Cymru yn dod i'w siop, Gugz n Oakz.

Mae hynny gan fod gan Mrs Lancey ddawn arbennig i dorri gwallt pobl a phlant sydd ag ADHD, awtistiaeth ac anableddau.

"O ran plant ag anghenion, fy swydd ddelfrydol oedd i weithio â phlant ac oedolion sydd ag anghenion," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ac wrth ddechrau torri gwallt dwi wedi dod ar draws nifer o blant fel'na. A dwi'n un o'r pobl sy'n meddwl bod gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i brofiad arferol mewn siop trin gwallt.

"Ond mae rhai siopiau trin gwallt ddim yn cynnig hynny, chi'n gwybod?

"Mae rhan fwyaf o drinwyr gwallt yn ei weld fel her, ond i mi mae'n ddiwrnod arall, dwi'n caru gwneud hyn."

'Cyfeillgarwch ac amynedd'

Cafodd Hannah Mckinney-Huguhes brofiad gwael pan aeth ei mab, Finley i siop trin gwallt am y tro cyntaf.

Doedd e ddim eisiau cael torri ei wallt, ond ers dod i weld Mrs Lancey nid ydy o'n gallu aros.

"Roeddwn i wedi mynd â Finley i siop trin gwallt ar y Stryd Fawr ond roedd e'n brofiad erchyll," meddai Mrs Mckinney-Hughes.

"Penderfynes i ddod fan hyn a chodais yn y bore a meddwl bod Finley yn mynd i sgrechen a rhedeg  i pobman, ac o'n i'n meddwl wrth fy hun 'ai plentyn fi yn unig sy'n gwneud hyn?

Image
Mae Teri Lancey wedi bod yn torri gwallt ers nifer o flynyddoedd  yn Waunarlwydd, Abertawe, ac mae pobl o hyd a lled de Cymru yn dod i'w siop, Gugz n Oakz.
Mae Teri Lancey wedi bod yn torri gwallt ers nifer o flynyddoedd  yn Waunarlwydd, Abertawe, ac mae pobl o hyd a lled de Cymru yn dod i'w siop, Gugz n Oakz.

"Ond roedd Teri yn wych, bydde hi'n gorwedd ar y llawr gyda fe, mae hi'n gwneud y profiad yn hwyl iddo yn hytrach nag eistedd 'na yn cwyno.

"Y pethau bach yw e,  fel y gwallt yn cwympo ar ei ysgwyddau. Dyw e ddim yn hoffi hwnna ond mae Teri yn brwsho y gwallt oddi arno a mae e'n gwneud e hefyd, wedyn bydd y ddau yn brwsho gwallt ei gilydd.

"Mae ganddi'r amynedd, mae'n ffrind ac mae'n caru'r plant. 

"Mae Finley mor gyfforddus yma, a mae e eisiau dod i gael ei wallt wedi torri nawr."

'Cyfforddus'

Mae gan Teri Lancey ferch bump oed, Oaklei, sydd ag awtistiaeth.

Oherwydd hynny, mae Teri yn benderfynol o sicrhau bod pob un plentyn ac oedolyn sydd ag anghenion ac yn dod ati i gael torri eu gwallt yn teimlo'n gyfforddus.

"Mae gen i ferch fy hun a gafodd ddiagnosis awtistiaeth y llynedd, ac oherwydd hynny mae pethau yn fwy personol i mi.

"Dwi ddim yn ei weld fel her. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yr un peth, dyw e ddim yn deg i beidio gwneud hynny i bobl sydd ag anghenion.

"Dyw e ddim yn meddwl bod chi'n gallu eu trin yn wahanol i sut byddwn i yn eich trin chi.

"Dwi'n gwneud hyn achos dwi'n caru ei wneud, byddwn i ddim yn gwneud y swydd os nad oeddwn i'n ei garu, mae'n rheswm i godi yn y bore."

'Cymuned'

Un peth mae Teri Lancey wedi ei bwysleisio wrth ei chwsmeriaid yw bod Gugz n Oakz yn fwy na siop trin gwallt yn unig.

Mae'r siop wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobrau Gwallt a Harddwch Cymru 2024, oherwydd y gwaith mae Teri Lancey wedi ei gwneud.

"Mae pobl wedi dod mewn ma am sgyrsiau yn unig a dyna'r ffordd mae pethau i fod, mae rhaid i chi fod yn gyfeillgar.

"Mae Waunarlwydd yn bentref bach hyfryd ac rydym wedi gwneud nifer o bethau i godi arian ac mae'r gymuned bob tro yn gefnogol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.