Newyddion S4C

Pob ysgol i gau mewn sir yn y gogledd ddydd Iau o achos rhybudd eira

07/02/2024
tywydd oren.png

Bydd pob ysgol yn Sir y Fflint ar gau ddydd Iau yn dilyn rhagolygon am rew ac eira.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio rhybudd am rew ac eira o felyn i oren ar gyfer rhannau o'r gogledd.

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 08:00 i 15:00.

Roedd rhybudd melyn am eira eisoes wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer y gogledd rhwng 03:00 ddydd Iau hyd at 03:00 ddydd Gwener.

Yn dilyn y rhybudd, mae Cyngor Sir Fflint wedi penderfynu cau pob ysgol yn y sir ddydd Iau.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd y Cynghorydd Dave Healey: "Mewn ymateb i ragolygon y tywydd fe benderfynwyd y bydd holl ysgolion Sir y Fflint ar gau yfory. 

"Mae disgwyl eira ar dir uchel ac mae cyngor mai dim ond teithiau hanfodol y mae pobl yn eu gwneud. 

"Mae rhai staff yn teithio cryn bellter ond bydd trafnidiaeth ysgol a chludiant i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu heffeithio. Mae ysgolion yn cael eu cynghori i wneud trefniadau ar gyfer dysgu ar-lein."

Mewn neges ar gyfrwng X gan gyfrif Ysgol Treffynnon, dywedodd yr ysgol: "Rydym wedi derbyn cyfarwyddyd gan yr Awdurdod Lleol y bydd pob ysgol yn Sir y Fflint yn cau yfory oherwydd rhagolygon o dywydd garw."

Mae disgwyl i 10-15cm o eira ddisgyn ond gall rhai ardaloedd sydd yn uwch na 200m weld rhwng 20 a 25cm o eira. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio ei bod hi'n fwy diogel i beidio â gyrru yn yr amodau hyn, ond os oes angen gwneud taith hanfodol, dylai pobl ystyried defnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth.

Mae posibilrwydd y gallai rhai ardaloedd brofi toriadau pŵer.

Mae disgwyl oedi ar y ffyrdd yn ogystal â gwasanaethau rheilffyrdd. 

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.