Newyddion S4C

Rob McElhenny'n disgrifio ei fagwraeth gyda dwy fam hoyw fel 'rhodd anhygoel'

06/02/2024
Rob McElhenney

Mae’r actor a chyd-perchennog clwb pêl-droed Wrecsam, Rob McElhenney, wedi disgrifio ei fagwraeth gyda dwy fam hoyw yn “rhodd anhygoel,” gan ddweud ei fod wedi helpu i “siapio” ei ddealltwriaeth o’r byd. 

Fe gafodd yr actor ei fagu gan Helen McElhenney a Mary Taylor, wedi i’w fam fiolegol, Ms McElhenney, ysgaru o’i gŵr – sef dad Rob McElhenney – oherwydd ei rhywioldeb.

Wrth siarad ar raglen ddogfen Welcome to Wrexham, dywedodd McElhenney ei fod bellach yn gallu edrych yn ôl ar ei fagwraeth gyda balchder, a hynny o ystyried “dewder” ei rieni ar y pryd. 

“Dwi bellach yn gallu cydnabod faint o ddewrder yr oedd hi’n cymryd iddyn nhw wneud yn union be’ ‘nathon nhw,” meddai. 

Mae Rob McElhenney bellach wedi siarad am fod yn “rhan o’r gymuned hoyw,” ag yntau efo dau frawd sy’n rhan o’r gymuned LHDT+ hefyd.

“Yn ôl safonau de Philadelphia yn 1984, roedd ein magwraeth yn anghonfensiynol,” meddai mewn cyfweliad yn 2021. 

“Ond roedd fy mrawd, chwaer a minnau’n gallu cydnabod yn gynnar nad oedd pob teulu’n edrych yn union yr un fath nac yn debyg i’r hyn a welsom ar y teledu.

“Cawsom ni ein magu gyda dim byd ond cariad a chefnogaeth a thosturi ac empathi. 

“Ac mae hynny wedi galluogi mi i ffynnu,” meddai. 

Mae’r actor, sy’n serennu yng nghyfres It’s Always Sunny in Philadelphia, hefyd wedi dweud bod y gymuned LHDT+ wastad wedi bod yn rhan ganolog o’i fywyd, a’i fod yn gwerthfawrogi’r ffordd mae’r gymdeithas wedi datblygu ers ei blentyndod. 

“Un o’r pethau mwyaf anhygoel am ein diwylliant nawr yw nad yw unrhyw un dan 35 oed hyd yn oed yn gwybod beth dwi’n siarad amdano,” ychwanegodd wrth sôn am heriau'r gorffennol.

Llun: Instagram (Rob McElhenney)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.