Teuluoedd yn chwilio am atebion flwyddyn wedi daeargryn Twrci a Syria
Flwyddyn ers i ddau ddaeargryn daro Twrci a Syria, mae teuluoedd yng Nghymru yn dal i chwilio am atebion a chymorth.
Ar 6 Chwefror, bydd hi’n flwyddyn union ers i’r daeargrynfeydd daro, y cryfaf i daro Twrci ers 1939.
Bu farw dros 50,000 o bobol a gadawodd bron i 18 miliwn o bobl mewn angen am gymorth dyngarol gan gynnwys bwyd, dŵr glân a lle i fyw.
Yn ôl un teulu sy’n byw yng Nghaerdydd roedd y trychineb yn un fyddai wedi gallu cael ei “hosgoi”.
Mae Baris Akonsy yn dal i alaru ar ôl colli ei fodryb a’i gefnither.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Fe gollodd gymaint eu teulu, cartrefi, popeth. Allwn ni ddim dod a’r bobl rheini yn ôl ond mae pobl yn dal i frifo. Cafodd gymaint eu lladd,” meddai.
"Roeddwn i yng Nghymru pan gefais y newyddion. Aethon ni i aros yn nhŷ fy ewythr a cheisio ffonio fy nheulu nôl adre i gael gwybod mwy. Ond mae’r signal yn wael yno felly roedd hi’n anodd cysylltu â nhw. Roeddwn i, fel nifer eisiau mynd nôl i helpu ac yn methu. Dyna’r amser gwaethaf erioed i ni, teimlad erchyll”.
Mae teulu Baris yn un o nifer sydd wedi eu chwalu. Yn ôl ei bartner, Heledd Williams “Roedd o’n anodd iawn trio cefnogi nhw yn mynd trwy’r fath beth.
"Roeddan nhw’n gwylio live stream i drio chwilio am gyrff eu perthnasau nhw. Oedd hynny’n erchyll.”
Beirniadaeth
Roedd yna feirniadaeth o Lywodraeth Twrci ar y pryd gyda nifer yn honni iddi fethu cyfle i baratoi ar gyfer sgil effeithiau y daeargrynfeydd ac i ymateb y gwasanaethau brys fod yn rhy araf.
Yn ôl Heledd “roedd hwn yn drychineb fuasai wedi gallu cael ei hosgoi, mae lot o bobl yn teimlo bod y system wedi gadael nhw lawr a dylai hyn ddim wedi digwydd.”
Mae rhoddion i Apêl Daeargryn Twrci-Syria y Pwyllgor Argyfwng (DEC) bellach wedi cyrraedd dros £158 miliwn. Mae’r swm yn cynnwys cyfanswm o £4.7 miliwn gafodd ei godi yng Nghymru.
Dywedodd Sian Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol, DEC Cymru: “Anghenion brys pobl. Dyna oedd y ffocws yn ystod y chwe mis cyntaf. Bwyd, dŵr, gofal iechyd. Ffocws yn arbennig ar ddosbarthu arian parod.”
Mae DEC Cymru yn pwysleisio bod yr ymdrech i helpu o bob cwr o’r byd yn dal yr un mor bwysig flwyddyn wedi’r daeargryn.
“Mae’n rhaid i ni gofio pa mor drawmatig oedd y digwyddiad yma. Fe gollodd pobl eu hanwyliaid nhw. Ma’ galar yn cymryd amser hir i bobl ymdopi ag o.”
Ychwanegodd: “Mae yna lwybr hir o flaen pobl. Ma ‘na arwyddion o’r daeargryn dal i weld ymhobman. Tunelli o rwbel.
“Does dim dwywaith bod cyfraniadau pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi achub miloedd ar filoedd o fywydau. Mae’r gwaith yn parhau ac mae’r gwaith yna yn hollol allweddol,” meddai.