Cyfarfod arall o dan ei sang wrth i ffermwyr ymgynnull yn Arberth i drafod dyfodol amaeth
Cyfarfod arall o dan ei sang wrth i ffermwyr ymgynnull yn Arberth i drafod dyfodol amaeth
Mae ffermwyr yn galw unwaith yn rhagor ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar eu cynllun ffermio Cynaliadwy.
Mae'r cynllun yn rhoi mwy o bwyslais ar ffermio gwyrdd, a nos Lun mae nifer fawr o amaethwyr wedi ymgynnull ar gyfer cyfarfod yn Arberth, Sir Benfro ar ddiwedd taith drafod undeb ffermio NFU Cymru.
Bwriad y cyfarfod yw rhoi cyfle i amaethwyr ddysgu mwy am y cynllun a’r broses ymgynghori.
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disodli’r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.
Bwriad y cynllun yw cynnal a gwella'r amgylchedd naturiol, lleihau allyriadau carbon a gwella safon bywyd yr anifeiliaid ar ffermydd.
Ond mae rhai agweddau o’r cynllun yn ddadleuol, yn enwedig yr angen i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nod y cynllun ffermio Cynaliadawy yw “sicrhau systemau bwyd diogel” a “mynd i’r afael â galwad brys yr argyfwng hinsawdd”
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi "cynnal ymarfer cydlunio trylwyr” wrth ddatblygu’r cynlllun.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn para tan Mawrth y 7fed.
Dyma'r ail gyfarfod mewn llai nag wythnos i drafod polisïau amaeth Llywodraeth Cymru.
Roedd cannoedd o ffermwyr yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Y Trallwng ym Mhowys nos Iau i drafod dyfodol y diwydiant.
Cafodd y cyfarfod hwnnw ei drefnu mewn ymateb i nifer o heriau y mae amaethwyr yn ei ddweud sydd yn eu wynebu ar hyn o bryd - o bolisïau amaeth y llywodraeth, i'r cyfyngder gyrru 20mya newydd, y diciâu, ac effaith Brexit ar y diwydiant.