Newyddion S4C

Barry John wedi marw yn 79 oed

04/02/2024

Barry John wedi marw yn 79 oed

Bu farw Barry John, un o sêr mwyaf y byd rygbi yn 79 oed.

Fe enillodd 25 o gapiau dros Gymru gan ymddeol o’r gêm yn 1972 yn 27 oed.

Roedd yn flaenllaw yn chwarae fel maswr dros ei wlad mewn partneriaeth gyda Syr Gareth Edwards ac ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971 pan gafodd e’r llysenw ‘y Brenin’.

Cafodd ei fagu ym mhentref Cefneithin ac fe chwaraeodd dros glybiau Llanelli a Chaerdydd.

Fe chwaraeodd Barry John mewn 25 o gemau rhyngwladol i Gymru a phump o gemau prawf i’r Llewod, un yn Ne Affrica yn 1968 a phedair yn Seland Newydd wrth guro'r Crysau Duon 2-1 yn y gyfres yn 1971.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ddydd Sul: “Bu farw Barry John yn heddychlon heddiw yn yr Ysbyty Athrofaol wedi ei amgylchynu gan ei wraig gariadus a phedwar o blant.

"Roedd yn dad-cu cariadus i’w 11 o wyrion ac yn frawd llawn cariad."

“Newyddion trist iawn - am yrfa, ac am ysbrydoliaeth,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Mae fy meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau wrth i ni gofio ei yrfa ryfeddol. Cwsg mewn hedd.”

Dywedodd Y Llewod: “Yn wir un o'r goreuon.

“Rydym yn wirioneddol drist bod yr hynod Barry John wedi marw yn 79 oed.

“Ysbrydolodd Barry gymaint ac fe fydd yn cael ei gofio am byth am faint a roddodd i’r gamp.

“Mae ein meddyliau ni i gyd gyda'i deulu a'i ffrindiau.

“Gorffwysa mewn hedd.”

Fe enillodd Cymru tair pencampwriaeth Pum Gwlad, Camp Lawn a dwy Goron Driphlyg pan oedd Barry John yn gwisgo'r crys coch.

Roedd yn ganolog wrth i Gymru ennill eu camp lawn yn 1971, y gyntaf ers 1952 wrth guro Ffrainc o 9-5 ym Mharis.

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru wrth i Gymru guro Awstralia o 14-11 yng Nghaerdydd yn 1966 ond bu’n rhaid iddo aros am flwyddyn arall cyn ei bartneriaeth am y tro cyntaf gyda Gareth Edwards wrth golli yn erbyn Seland Newydd o 13-6 yng Nghaerdydd.

Mae John ac Edwards yn dal i gael eu hystyried fel y bartneriaeth o haneri gorau erioed.

Fe sgoriodd 120 o bwyntiau yn gyfangwbl dros Gymru a’r Llewod.

Fe chwaraeodd ei gêm rygbi olaf yn y gêm rhwng XV Barry John yn erbyn XV Carwyn James i ddathlu hanner canmlwyddiant yr Urdd yng Nghaerdydd ar 26 Ebrill 192.  

Ar ôl ymddeol o’r gamp bu’n sgrifennu erthyglau i bapurau newyddion.

Cafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol yn 1997 ac Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 1999. 

Yn 2015 cafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion World Rugby.

Mae’n gadael ei wraig Jan a’i blant Kathryn, Lucy, Anna a David.

Barry John yw’r ail chwaraewr rygbi enwog o’r 70au sydd wedi marw eleni yn dilyn marwolaeth y cefnwr JPR Williams ym mis Ionawr.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.