Newyddion S4C

Pleidlais ar uno Iwerddon o fewn y ‘ddegawd nesaf’ meddai'r Prif Weinidog newydd

04/02/2024
Michelle O'Neill

Mae Prif Weinidog newydd Gogledd Iwerddon Michelle O’Neill wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd pleidlais ar uno Iwerddon yn digwydd “yn y ddegawd nesaf”.

Dywedodd Ms O’Neill taw dyma’r "ddegawd o gyfle”.

Ddydd Sadwrn cafodd Michelle O'Neill o Sinn Féin ei hethol yn Brif Weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon o blaid genedlaethol Wyddelig.

Mae Emma Little-Pengelly o'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) wedi cymryd rôl y dirprwy brif weinidog.

Daw wrth i wleidyddion ymgasglu yn Stormont am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, wedi i’r ail blaid fwyaf, y DUP, ddweud y bydden nhw’n dod a boicot dwy flynedd i ben.

Mae'r DUP wedi cyrraedd cytundeb newydd efo Llywodraeth Prydain sy’n golygu na fydd angen gwirio nwyddau sy’n cyrraedd y rhanbarth o dir mawr Prydain.

'Iachus'

Yn dilyn cyhoeddiad y DUP, dywedodd arweinydd Sinn Féin Mary Lou McDonald fod uno Iwerddon nawr “o fewn cyffwrdd”.

Ar raglen Sky News Trevor Phillips, dywedodd Ms O’Neill fod ei phenodiad yn arwydd o’r “newid sy’n cymryd lle” ar ynys Iwerddon.

Dywedodd: “Mae hynny’n beth da, yn beth iachus, mae’r newid yma’n gallu bod yn fuddiol i ni gyd.

"Ar ôl beth ddywedodd Mary Lou McDonald, rwy’n credu ein bod ni mewn degawd o gyfle.

“Rwy’n grediniol hefyd ein bod ni’n gallu gwneud dau beth ar yr un pryd; rhannu pŵer, ei wneud yn sefydlog, ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd pob dydd yn nhermau gwasanaethau cyhoeddus wrth hybu ein dyheadau dilys cyfiawn."

O dan gytundeb Dydd Gwener y Groglith mae’r pŵer i alw pleidlais ar ffiniau yn nwylo Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Chris Heaton-Harris.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.