Gwyliwch: Leigh Halfpenny yn perfformio'r haka gyda’i dîm newydd
Mae cyn gefnwr Cymru, Leigh Halfpenny wedi bod yn perfformio'r haka gyda’i dîm newydd, y Crusaders o Seland Newydd.
Fe wnaeth Leigh Halfpenny, a enillodd dros gant o gapiau i Gymru, ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm nos Sadwrn ym Mharc Uí Chaoimh yn Cork wrth chwarae yn erbyn Munster.
Arwyddodd y Cymro gytundeb blwyddyn gyda’r tîm Super Rugby o Canterbury ddiwedd 2023 ar ôl cryn ddyfalu am ei ddyfodol yn y gamp.
Chwaraeodd y cefnwr ei gêm olaf i Gymru yn erbyn y Barbariaid ym mis Tachwedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/ballsdotie/status/1753830276759703998?s=20
Boddi ger y lan oedd ffawd y Crusaders ar lannau afon Lee, neu An Laoi, yn Cork wrth iddyn nhw golli o 21 pwynt i 19 mewn gornest rhwng goreuon hemisffer y gogledd a’r de.
Bydd gêm nesaf y Crusaders yn erbyn y Chiefs ar 23 Chwefror.
Llun: Huw Evans.