Newyddion S4C

Arestio dyn ar ôl i ddynes gael ei lladd mewn ymosodiad gan gŵn

04/02/2024
Esther Martin

Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei lladd ar ôl ymosodiad gan ddau gi yn Jaywick yn swydd Essex.

Dywedodd Heddlu Essex eu bod nhw wedi eu galw i stryd Hillman Avenue yn Jaywick toc wedi 16:00 ddydd Sadwrn.

Roedd y ddynes wedi ei hanafu’n ddifrifol a bu farw yno. Dywedodd ei theulu taw Esther Martin oedd ei henw a'i bod yn 68 oed.

Cafodd y dyn, sy’n byw yn y pentref, ei arestio ar amheuaeth o droseddau cŵn peryglus ac mae'n cael ei holi gan dditectifs yn y ddalfa.

Bu’n rhaid difa’r cŵn a bydd arbenigwr yn cadarnhau eu brîd yn hwyrach.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Rydym wedi bod yn cynnal ymchwiliadau i geisio sefydlu’r amgylchiadau arweiniodd at y digwyddiad ac rydym yn credu bod dau gi wedi ymosod arni.

“Mae’n ddiogel i’r cyhoedd bellach."

'Dyfalu'

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Glen Pavelin: “Mae fy meddyliau a rheini o’m swyddogion gyda theulu’r ddynes fu farw.

“Fe fydd y digwyddiad yma yn sioc fawr i’r gymuned ac rwy’n deall eu pryderon.

"Mae ditectifs profiadol yn arwain yr ymchwiliad i geisio dod o hyd i’r hyn ddigwyddodd.

“Rwy’n gwybod bod dyfalu am frid y cŵn ac rydym yn aros am gadarnhad gan arbenigwyr cyn cyhoeddi unrhyw fanylion pellach."

Llun: Heddlu Essex

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.