Newyddion S4C

O leiaf 64 o bobl wedi marw mewn tanau yn Chile

04/02/2024

O leiaf 64 o bobl wedi marw mewn tanau yn Chile

Mae o leiaf 64 o bobl wedi marw mewn tanau gwyllt yn rhanbarth Valparaíso yn Chile yn ôl awdurdodau yn yr ardal.

Fe gyhoeddodd Arlywydd Gabriel Boric stad o argyfwng a byddai yn darparu “pob adnodd angenrheidiol” er mwyn delio gyda’r sefyllfa.

Yn ôl adroddiadau dyma’r tanau coedwig waethaf yn hanes y wlad.

Roedd nifer o’r bobl a effeithiwyd yn ymweld â’r ardal arfordirol yn ystod gwyliau haf.

Mae ysbytai dros dro wedi eu sefydlu a myfyrwyr meddygol yn cael eu cyflogi i helpu lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Mae achubwyr wedi ei chael hi’n anodd cyrraedd rhai ardaloedd ac mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gall y nifer sydd wedi marw “gynyddu’n sylweddol”.

Mae llywodraeth Chile wedi annog pobl i beidio â theithio i’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan y tanau.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.