Newyddion S4C

Rhybudd teithio ymysg streiciau trenau wrth i Gymru herio’r Alban

03/02/2024
Stadiwm y Principality

Mae cefnogwyr Cymru a fydd yn teithio i Gaerdydd ac yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban wedi cael rhybudd i adael amser ychwanegol ar gyfer y daith.

Fe allai streiciau gan weithwyr cwmni Avanti West Coast effeithio ar deithiau cefnogwyr o ogledd Cymru a’r Alban drwy Crewe gan roi rhagor o bwysau ar wasanaethau eraill.

Mae cwmni Great Western Rail (GWR) wedi gofyn i deithwyr wirio rhag ofn bod streiciau yn effeithio ar eu gwasanaethau nhw hefyd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu darparu trenau ychwanegol.

“Mae disgwyl i wasanaethau fod yn brysur iawn felly a fyddech chi cystal â chaniatáu digon o amser ar gyfer eich taith,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

'Siomedig'

Mae aelodau o Aslef ar Avanti West Coast, East Midlands Railway a West Midlands Railway oll yn streicio am 24 awr oherwydd anghydfod hir dymor dros gyflog ac amodau.

Mae Avanti West Coat wedi annog cwsmeriaid i beidio â theithio ddydd Sadwrn gan na fydd gwasanaethau.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Andy Mellors: “Mae ein cwsmeriaid eisiau bod allan yn defnyddio ein rhwydwaith ac mae’n siomedig ein bod ni unwaith eto’n gofyn iddyn nhw beidio â theithio ar benwythnos.

“Rydym yn deall eu rhwystredigaeth ac yn ymddiheuro am yr aflonyddwch i’w cynlluniau.

“Byddem yn annog y rhai sy’n gallu gwneud hynny i newid eu diwrnod teithio. Fel arall, mae gan gwsmeriaid hawl i gael ad-daliad llawn heb ffi.”

Mae disgwyl i’r M4 fod yn brysur a bydd nifer o ffyrdd ynghanol Caerdydd ar gau ar gyfer yr achlysur.

Bydd y gêm yn fyw ar 16.45 ar S4C.

Llun gan Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.