Newyddion S4C

'Mor bwysig yn hanesyddol': Beth yw arwyddocâd y gwleidyddion yn dychwelyd i Stormont?

Newyddion S4C 03/02/2024
Sinn Ferin a'r DUP, gyda Stormont yn y cefndir

Wedi dwy flynedd o fod heb llywodraeth, mae gwleidyddion yng Ngogledd Iwerddon wedi dychwelyd i Stormont ddydd Sadwrn.

Daw ar ôl i’r DUP gyrraedd cytundeb newydd efo Llywodraeth Prydain sy’n golygu na fydd angen gwirio nwyddau sy’n cyrraedd y rhanbarth o dir mawr Prydain.

Wrth ddychwelyd mae aelodau wedi ethol Michelle O'Neill o’r blaid Sinn Féin yn Brif Weinidog - y Prif Weinidog cenedlaetholgar cyntaf erioed.

Gyda streiciau o fewn y sector cyhoeddus ar eu mwyaf ers 50 o flynyddoedd mae ‘na alw am weithredu i fynd i’r afael a phryderon etholwyr.

Yn ngorllewin Belffast mae Liam Andrews yn pori drwy hen adroddiadau newyddion a lluniau iddo gymryd dros gyfnod o ddegawdau.

Mae’r lluniau, rhai yn dangos y brwydro ffyrnig fuodd yn y rhanbarth, yn atgof o’r tensiynnau sydd rhwng yr unoliaethwyr a chenedlaetholwyr.

Gyda chytundeb newydd y DUP yn hawlio’r penawdau mae Mr Andrews yn pwysleisio pwysigrwydd penodi Prif Weinidiog o’r blaid Sinn Feinn.

“Mae Michelle O’Neil yn mynd i fod yn cael y brif swydd yn y Cynulliad," meddai.

“Beth mae hynny yn golygu... wel mi gafodd Gogledd Iwerddon ei sefydlu i fod yn lle fyddai’r protestaniad unoliaethol yn teyrnasu am byth.

“Mae canrif wedi mynd heibio a mae hynny rwan yn dod i ben.

“Mae o mor bwysig yn hanesyddol ac mae’n anodd i fynegi hynny yn iawn i bobl o tu fas”.

Image
Liam Evans a Liam Andrews
Liam Evans (chwith) a Liam Andrews (dde)

'Get on with it!'

Gweision sifil sydd wedi bod yn rhedeg Gogledd Iwerddon yn absenoldeb y gwleidyddion ac ymhlith etholwyr mae ‘na boeni enfawr am wasanaethau cyhoeddus.

Fel rhan o’r cytundeb newydd mi fydd y dalaith yn derbyn £3bn gan Lywodraeth Prydain ond mae ‘na heriau sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd, y system Addysg a thyfu’r economi.

Awr a hanner o Belffast mae Gwawr McGirr yn byw ger dref Omagh ac yn dysgu yn yr ysgol leol.

“Mae athrawon yn gyffredinol heb gael pay rise ers tua tair neu bedair blynedd rwan”, meddai.

“Ac efo inflation sydd wedi bod yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig mae pobl yn frustrated iawn."

Gyda gymaint o aniddigrwydd ymysg pobl mae’n dweud bod amheuaeth o hyd am y ffordd ymlaen.

Wait and see fydd hi, mae pobl isho i’r thing weithio... mae pobl yn gyffredinol jest fatha - get on with it!”

'Llwyddiant'

Yn ôl Dr Eleanor Leah Williams o Brifysgol Rhydychen sy’n arbenigo yng ngwleidyddiaeth y rhanbarth mae ‘na lot fawr i wleidyddion gyflawni rwan.

“Mae to do list enfawr i gael," meddai.

“O ran yr economi ac o ran y sector addysg felly dwi’n credu y bydd bob plaid yn awyddus i fynd nol i’w gwaith yn enwedig gan bod etholiadau i ddod lan cyn hir."

O ran cymhelliad y DUP i ddychwelyd mai’n dweud bod sawl ffactor yn gyfrifol.

“Mae’r £3bn yn llwyddiant enfawr i’r DUP a gan bod y deadline diwedd y mis i gael Stormont nôl lan yn rhedeg neu bydde San Steffan yn gallu cymryd drosodd - direct rule fel petai," meddai.

Mae’r lon at ddychwelyd gwleidyddion yn ôl i Stormont wedi bod yn un hir a throellog ac er bod amheuaeth o hyd gan rai unoliaethwyr mae’n glir fod pentwr o waith i’w flaenoriaeth wrth i’r cynulliad newydd ffurfio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.