Newyddion S4C

Pryderon am ddyfodol canolfan beicio mynydd Coed y Brenin yng Ngwynedd

01/02/2024

Pryderon am ddyfodol canolfan beicio mynydd Coed y Brenin yng Ngwynedd

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Iau gan bobl leol sy'n pryderu am ganolfan beicio mynydd boblogaidd yng Ngwynedd.

Agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn y Ganllwyd ger Dolgellau yn 1996, ac mae'n cael ei rhedeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n un o dair canolfan sydd dan fygythiad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi bod canolfannau ymwelwyr ym Mwlch Nant yr Arian, Ponterwyd ger Aberystwyth ac Ynyslas yn Borth, Ceredigion hefyd yn cael eu hadolygu ac mae disgwyl cyhoeddiad ddiwedd mis Mawrth gan y corff amgylcheddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad bod "cyllid cyhoeddus yn eithriadol o dynn", ond nid oedd penderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol y canolfannau eto.

Llwybrau beicio

Mae canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn cynnwys rhwydwaith o lwybrau beicio mynydd sydd wedi eu lleoli yn y goedwig.

Cyn y cyfarfod cyhoeddus yn y Ganllwyd nos Fercher, dywedodd Delyth Lloyd Griffiths, y cynghorydd Plaid Cymru lleol: “Mae clywed y newyddion bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu dyfodol tair o’i chanolfannau ymwelwyr yn y gogledd a chanolbarth Cymru wedi ysgwyd y gymuned hon.

Image
Delyth Lloyd Griffiths
Y cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths

“Rydyn ni’n gwybod bod 100,000 o ymwelwyr yn dod i Goed y Brenin bob blwyddyn – yn economaidd, sut ar y ddaear all ardal â phoblogaeth wledig fel Meirionnydd freuddwydio am groesawu’r nifer yna o ymwelwyr i’r ardal, mewn unrhyw ffordd arall?

“Mae’r ganolfan yn cyflogi 20 o bobl sy’n gwneud Coed y Brenin yn gyflogwr hanfodol bwysig i Wynedd.

Ychwanegodd: “Mae angen i bobl ddeall mai ychydig iawn o gyfleoedd cyflogaeth sydd gan ardal wledig, gyda’r rhan fwyaf o’n trigolion yn hunangyflogedig ac yn gweithio’n galed mewn busnesau bach iawn.

“Mae cael adnodd, fel Coed y Brenin, ar agor gydol y flwyddyn, yn cynnig gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol gyda llwybrau beicio mynydd, cerdded a rhedeg yn hollbwysig i’r ardal hon.”

'Adolygu prosiectau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ein canolfannau ymwelwyr yn adnodd sy’n cael ei garu’n fawr ymhlith pobl leol ac ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd ac mae’r staff sy’n eu gweithredu yn cael eu hystyried yn gwbl briodol fel wyneb CNC," medden nhw.

“Fodd bynnag, mae cyllid cyhoeddus yn eithriadol o dynn ar draws y DU gyfan. Oherwydd hyn mae’n rhaid inni edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac adolygu’n feirniadol, ac y mae’n rhaid i ni barhau i adolygu pa brosiectau rydym yn dirwyn i ben a pha brosiectau sydd yn cael eu harafu.

“Nid yw hyn yn wahanol i unrhyw gorff sector cyhoeddus arall ar hyn o bryd. Mae ein canolfannau ymwelwyr yn rhan o’r adolygiad hwn, ond nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ar sut y byddant yn gweithredu yn y dyfodol.

“Dros y misoedd nesaf byddwn yn llunio opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol a bydd y penderfyniadau terfynol ar gyfer 2024/25 yn cael eu gwneud gan ein Bwrdd cyn diwedd mis Mawrth.”

Prif Lun: Croeso Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.