Newyddion S4C

Elusennau yn rhybuddio bod angen i Lywodraeth Cymru 'newid ei dulliau gofal plant'

01/02/2024
Mae elusennau wedi rhybuddio nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i wella gofal plant.

Mae dwy elusen yn rhybuddio bod angen i Lywodraeth Cymru newid ei dulliau gofal plant.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Bevan a’r Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud bod costau uchel a sialensau argaeledd yn tanseilio gallu system gofal plant Cymru i daclo anfantais a thlodi.

Yn ôl yr adroddiad, pris meithrin llawn-amser yw £13,049 y flwyddyn. Mae 70% o rieni gyda’u plentyn ieuengaf o dan 10 mlwydd oed yn credu bod y costau gofal plant yma’n anfforddiadwy. 

Dywedodd Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi Sefydliad Bevan: “Mae prisoedd gofal plant yn cloi nifer o rieni Cymraeg allan o waith ac yn atal plant rhag manteisio ar y cyfleoedd sy’n dod o ofal o ansawdd dda.

“Er ei fod yn bositif bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella’r sefyllfa trwy ehangu eu hariannu o ofal plant i gynnwys plentyn dwy flwydd oed, mae’r ffaith nad oes unrhyw gynlluniau i gefnogi rhieni gyda phlant iau yn bryder enfawr.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli allan.”

'Methu fforddio'

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod rhieni yn cael trafferth cael mynediad i ofal plant sydd wedi’i ariannu, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae ar gael. 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth gyda chostau gofal plant i deuluoedd trwy dair rhaglen. 

Creda’r ddau sefydliad nad yw’r rhaglenni yma’n cyrraedd digon o deuluoedd, sy’n golygu bod rhaid i rieni symud eu plant o un lle i’r llall, gan darfu ar eu diwrnod gwaith. 

Mae’r adroddiad hefyd yn honni nad oes digon o lefydd gofal plant, sy’n achosi problemau i rieni mewn ardaloedd gwledig, sy’n gweithio yn y nos neu ar y penwythnos.

Yn ôl Louis Woodruff, Uwch-gynghorydd Polisi i’r Sefydliad Joseph Rowntree, mae’r gwendidau yma’n effeithio ar blant ar draws Cymru yn uniongyrchol.

Dywedodd Mr Woodruff: “Gall gofal plant fod yn allweddol wrth daclo anfantais, trwy helpu teuluoedd gynyddu enillion a gwella canlyniadau i blant difreintiedig. 

“Nid yw’r potensial yma’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd, gyda phlant difreintiedig yn dechrau ysgol tu ôl i blant eraill a rhieni sydd methu fforddio gofal i’w plant.”

Er y problemau sydd i’w gael yn y system gofal plant, ffeindiodd y sefydliadau bod nifer o gryfderau i gael hefyd, yn enwedig yn eu gweithlu. 

Galwodd Steffan Evans ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y sylfaeni cryf yma er mwyn dosbarthu system sy’n gweithio i bob plentyn a theulu. 

Ychwanegodd Evans: “Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl mae gofal plant yn chwarae wrth ymateb i dlodi.”

“Dylai gofal plant hafal gael ei gynnig i bob rhiant heb ots am eu statws gwaith, gydag oriau ychwanegol yn cael eu cynnig gyda ffioedd symudol am rieni sydd eisiau.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y gall gofal plant hygyrch o ansawdd uchel fod yn drawsnewidiol i blant, yn dod â chyfleoedd i rieni ac mae'n allweddol i'n hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru trwy ein Strategaeth Tlodi Plant.

"Dyma pam ein bod yn datblygu ein cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, sy'n adeiladu ar gyflawni ein hymrwymiadau presennol i ehangu'r ddarpariaeth a chefnogi'r gweithlu. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar themâu ansawdd y ddarpariaeth, mynediad at ddarpariaeth a chefnogi a datblygu'r gweithlu.

"Rydym eisoes yn llwyddo i gyflawni ein cynlluniau ar gyfer ehangu ein darpariaeth gyffredinol yn raddol i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.”

Llun: Shutterstock/Krakenimages.com.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.