Chwilio am ddynes 50 oed yn ardal Ynys Lawd ger Caergybi
31/01/2024
Mae’r chwilio yn parhau am ddynes 50 oed yn ardal Ynys Lawd ger Caergybi ddydd Mercher.
Mae nifer o asiantaethau yn rhan o’r chwilio yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Gethin Jones: “Rydym yn diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth wrth i’r chwilio barhau a gofynnwn i’r cyhoedd osgoi yr ardal er diogelwch.
“Dylai unrhyw un a welodd Nissan Micra 2006 arian ddoe, neu sydd â chamera cerbyd neu dystiolaeth ar CCC gysylltu â ni.
“Mae swyddogion yn cefnogi teulu’r ddynes tra bo’r chwilio’n parhau.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101, neu ar y wefan gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q014247.
Llun: Monsyn