Newyddion S4C

Cyn chwaraewr Cymru a'r Scarlets yn pledio'n euog i yfed a gyrru

30/01/2024
Dafydd Jones

Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru a'r Scarlets wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru. 

Mae Dafydd Jones sy'n 44 oed o Borth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin yn wyneb a llais cyfarwydd fel sylwebydd rygbi. 

Cafodd ei arestio ar ôl i'w gar daro yn erbyn tractor ar ffordd ddeuol yr A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin ar nos Iau, 11 Ionawr. 

Yn Llys Ynadon Llanelli, cafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis a bydd yn rhaid iddo dalu dirwy o ychydig dros £1,000.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.