Newyddion S4C

Dyn o Gastell-nedd yn euog o lofruddio ei gariad

30/01/2024
georgina dowey.png

Mae dyn o Gastell-nedd a laddodd ei gariad wedi ei gael yn euog o'i llofruddiaeth. 

Plediodd Mathew Pickering, 49, yn euog i ddynladdiad ond gan wadu llofruddio Georgina Dowey, 46, yn Nhregatwg fis Mai diwethaf. 

Gadawodd ei chorff ar lawr eu hystafell molchi am fwy na diwrnod tra'n dinistrio tystiolaeth.

Ond fe wnaeth rheithgor ei gael yn euog o'i llofruddiaeth yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.

Dywedodd yr heddlu fod Ms Downey yn unigolyn bregus, gan symud i mewn i dŷ Pickering ym mis Mawrth 2023 ar ôl dechrau perthynas ag o. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt: "Mae’r euogfarn yma yn golygu cyfiawnder ar gyfer llofruddiaeth Georgina gan ei phartner ei hun.

"Cafodd Georgina ei gweld yn fyw am y tro olaf ar 5 Mai. Digwyddodd y llofruddiaeth naill ai yn ddiweddarach y noson honno neu yn oriau mân y bore canlynol. 

"Treuliodd ef tua 40 awr yn dinistrio tystiolaeth tra bod corff Georgina yn gorwedd ar lawr yr ystafell molchi.

"Mae fy meddyliau yn parhau gyda theulu Georgina sydd yn dealladwy wedi eu llorio yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd.

"Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a thystion am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei roi i’r ymchwiliad."

Bydd Mathew Pickering yn cael ei ddedfrydu ar 5 Chwefror.
 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.