Unoliaethwyr yn cefnogi cytundeb i adfer grym yng Ngogledd Iwerddon
Unoliaethwyr yn cefnogi cytundeb i adfer grym yng Ngogledd Iwerddon
Mae plaid unoliaethol y DUP wedi cefnogi cytundeb gyda Llywodraeth y DU i adfer grym yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r DUP wedi bod yn boicotio Stormont ers dwy flynedd oherwydd pryderon am reolau masnach ar ôl Brexit.
Ond dywedodd arweinydd y DUP, Syr Jeffrey Donaldson, y byddai llwyddiant y cytundeb newydd yn dibynnu ar ddeddfwriaeth newydd yn Senedd San Steffan.
Croesawodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Chris Heaton Harris y cam gan ddweud y byddai Llywodraeth y DU yn cadw at eu hochor nhw o’r fargen.
Plaid weriniaethol Sinn Féin sicrhaodd y nifer mwyaf o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf yn 2022, ac mae hynny'n golygu mai Michelle O'Neill fydd yn cael ei henwebu yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, a'r tro cyntaf i wleidydd gweriniaethol arwain y senedd yn Stormont.
Sefydlogrwydd
Dywedodd Llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald y bydd honno yn "foment hynod o arwyddocaol."
Ond roedd hi'n cydnabod fod "gwaith enfawr" eto i'w gyflawni er mwyn adfer grym yn Stormont
“Mae’n hanfodol bod yna sefydlogrwydd gwleidyddol i fynd i’r afael â maint yr argyfwng ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
“Gadewch i ni nawr ganolbwyntio ein meddyliau ar y swydd dan sylw ac ar yr atebion sydd eu hangen i gefnogi gweithwyr a theuluoedd sydd eisiau ac yn haeddu llywodraeth weithredol.”
Ychwanegodd fod cyhoeddiad plaid unoliaethol y DUP yn ystod oriau mân fore Mawrth yn "rhyddhad enfawr."
Mewn cynhadledd i’r wasg am 1.00, dywedodd arweinydd y DUP Syr Jeffrey Donaldson bod ei blaid wedi cefnogi’r cytundeb i adfer grym, wedi cyfarfod nos Lun.
“Rwy’n hyderus y bydd holl aelodau’r blaid yn derbyn yr hyn a oedd yn gam pendant gan bwyllgor gwaith y blaid heno,” meddai.
Roedd protestiadau y tu allan i’r cyfarfod ar ystâd Larchfield yn Sir Down, gyda thua 50 o unoliaethwr yn bresennol yno.
Mae Ysgrifenydd Gogledd Iwerddon yn San Steffan, Chris Heaton-Harris wedi dweud ei fod yn gobeithio cwblhau manylion y cytundeb "gyn gynted â bo modd."
Ychwanegodd y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher.