Cosbi teithwyr yn Eryri am bwyso allan o gar i dynnu llun
18/06/2021
Cosbi teithwyr yn Eryri am bwyso allan o gar i dynnu llun
Mae Heddlu'r Gogledd wedi galw teithwyr wnaeth bwyso allan o gar yn Eryri fel pobl "dwp".
Cafodd fideo ei ffilmio gan heddwas oedd ddim mewn gwisg swyddogol ar ddydd Sul, 13 Mehefin.
Mae'r fideo yn dangos dau berson yn pwyso allan o'r car wrth deithio ar ffordd yn y Parc Cenedlaethol.
Cafodd y car ei stopio, ac fe gafodd yr unigolion eu dirwyo.
Lluniau: Heddlu Gogledd Cymru