![Scott Quinnell](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-01/scott%20quinnell_0.jpg?itok=9ORhQBOK)
Scott Quinnell yn arwain tîm rygbi o'r stryd i'r sgrym i herio Lloegr
Bydd cyn-chwaraewr rygbi Cymru Scott Quinnell yn arwain tîm rygbi o'r stryd i'r sgrym i herio Lloegr mewn cyfres newydd.
Bydd Quinnell yn hyfforddi tîm rygbi T1, sef fformat newydd o rygbi ar gyfer pobl o bob gallu.
Fformat newydd yw T1 gan World Rugby a gafodd ei lansio ym Mharis cyn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi.
Mae’n gêm ddi-gyswllt ond sydd yn cynnwys nodweddion rygbi adnabyddus fel sgrymiau a llinellau.
Yn y gyfres newydd, Stryd i’r Sgrym ar S4C, yr her i Scott Quinnell fydd hyfforddi tîm o chwaraewyr o wahanol alluoedd a chefndiroedd cyn iddynt chwarae gêm gystadleuol ar ddiwedd y gyfres yn erbyn tîm o Loegr.
Dywedodd Scott Quinnell ei fod yn angerddol iawn am helpu pobl i gael yr hyder i chwarae, a’r cyfle i gydweithio fel tîm.
“Oherwydd galla i ddim chwarae mwy, dydw i ddim yn rhan o dîm bob wythnos,” meddai.
“A dwi’n gweld eisiau bod yn rhan o dîm – chi yw fy nhîm i.”
Y pencadlys am y tri mis nesaf fydd Y Trallwng ym Mhowys, ac mi fydd y criw hefyd yn hyfforddi yng Nghefneithin yn Sir Gaerfyrddin ac yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.
![Scott Quinnell](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-01/scott%20quinnell_0.jpg?itok=9ORhQBOK)
'Cyfleoedd'
Mae rhai aelodau o'r garfan wedi chwarae rygbi o’r blaen, ac eraill erioed wedi camu i'r cae.
Ond mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol, gan gynnwys Dylan Evans, o Waunfawr.
Mae Dylan eisoes yn aelod o Glwb Rygbi’r Stingrays ym Mae Colwyn, sy’n dîm i bobl â gwahanol alluoedd, ond mi wnaeth y fformat newydd yma ddal ei sylw.
Cafodd Dylan ddiagnosis o ADHD pan oedd o’n saith mlwydd oed, ac yn ddiweddar iawn, cafodd ddiagnosis o awtistiaeth hefyd. Mae o’n gweld hi’n anodd i gyfathrebu gyda pobl ar adegau.
Dywedodd Jackie, mam Dylan: “Tydi o ddim wedi cael cyfleoedd fel pobl ifanc eraill yr un oed oherwydd ei bersonoliaeth a’i gymeriad o, a pa mor anghenus mae o wedi bod, sydd ddim yn deg iawn.
"Dwi’n meddwl ddylai pob person a plentyn gael yr un cyfleoedd mewn bywyd.”
Camau positif
Gyda’r pwyslais ar fwynhau, ffitrwydd a chynnwys pawb yn yr hwyl – mae T1 yn gêm gall unrhyw un ei chwarae.
Gobaith World Rugby yw fod y fformat newydd yma yn denu pobl at y gamp, a hynny mewn cyfnod ble mae pryderon am y gêm yn sgil anafiadau, yn enwedig ergydion i’r pen.
Yn rhan o’r tîm hyfforddi gyda Scott mae cyn-gapten tîm dynion Cymru, Ken Owens, un o hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru, Alex Jones, cyn-gapten tîm menywod Cymru, Siwan Lilicrap a Billy McBryde, sy’n chwarae i’r Doncaster Knights.
Yn helpu gyda’r broses mae Osian Leader, Seicotherapydd o’r elusen School of Hard Knocks.
Mae’r elusen yn helpu pobl i wella eu iechyd meddwl a chorfforol, a rôl Osian fydd sicrhau fod yr heriau mae’r cyfranwyr yn wynebu yn gamau positif ymlaen yn eu bywydau.
Bydd modd wylio Stryd i’r Sgrym ar S4C am 21:00 ar 30 Ionawr. Bydd y gyfres hefyd ar gael ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill