Newyddion S4C

Beirniadu Gary Lineker wedi iddo alw'r Cymru Premier yn 'gynghrair ffermwyr'

29/01/2024
lineker.png

Mae Gary Lineker wedi cael ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo alw cynghrair y Cymru Premier JD yn "gynghrair ffermwyr".

Daeth ei sylwad yn ystod gêm Casnewydd yn erbyn Manchester United ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA ddydd Sul. 

Colli o 4-2 oedd hanes yr Alltudion ar ddiwedd gêm llawn cyffro yn Rodney Parade.

Wedi i Will Evans sgorio'r ail gôl i Gasnewydd, dywedodd Mr Lineker: "Roedd yn gweithio ar fferm 18 mis yn ôl ac yn chwarae i glwb pêl-droed y Bala. 

"Yn eithaf llythrennol, mae wedi mynd o gynghrair y ffermwyr i Uwch Gynghrair Lloegr yng Nghwpan yr FA."

Wrth ymateb i'w sylwadau, penderfynodd nifer i fynegi eu rhwystredigaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd un: "Mae Gary Lineker yn galw'r Cymru Premier JD yn Gynghrair Ffermwyr yn nodweddiadol o rywun sydd ddim yn gwybod dim byd amdano. Fel cadeirydd o glwb yn y gynghrair, dwi'n meddwl fod ei sylwad yn amharchus a ddim yn iawn."

Ychwanegodd Clwb Pêl-droed Y Bala: "Hapus i wahodd Gary Lineker i Maes Tegid un diwrnod i brofi ein "cynghrair ffermwyr". 

Roedd sgoriwr y gôl Will Evans yn arfer gweithio fel ffermwr ar ffarm ei dad yng nghanolbarth Cymru.

Wrth ymateb i sylwad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Lineker ei fod yn "gyfeiriad at y ffaith ei fod yn ffermwr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.