Nadine Dorries i dalu £16,000 wedi iddi gael ei thalu ar gam
Mae cyn Aelod Seneddol Ceidwadol San Steffan, Nadine Dorries, wedi dweud y byddai’n rhoi dros £16,000 yn ôl wedi iddi gael ei thalu ar gam.
Fe gafodd Ms Dorries ei thalu fel rhan o becyn ymddiswyddo yn dilyn ei chyfnod fel Ysgrifennydd Diwylliant dan Boris Johnson, ond dan y rheolau presennol ni ddylai fod wedi derbyn yr arian hwnnw.
Mae gan weinidogion yr hawl i dri mis werth o gyflog pan nad ydynt wedi derbyn rhybudd ynglŷn â’u contract yn dod i ben, ond dim ond y rheiny dan 65 oed sy’n gymwys.
Roedd Ms Dorries eisoes wedi troi’n 65 oed sawl mis cyn iddi adael ei swydd yn y Cabinet.
Wrth siarad ar raglen BBC Sunday with Laura Kuenssberg ddydd Sul, dywedodd y cyn AS ei bod ond wedi gweld e-bost yn nodi’r cam ddydd Gwener ddiwethaf, ac mae bellach wedi addo i dalu’r swm yn ôl peth cyntaf ddydd Llun.
“Wnâi talu’r arian yn ôl bore Llun, does ‘na ddim manylion ynglŷn â sut i wneud hynny yn yr e-bost ond dwi’n siŵr fyddai’n dod o hyd i sut i wneud.
“O’n i’n gutted,” meddai.
Nadine Dorries oedd yr Aelod Seneddol dros Ganol Swydd Bedford rhwng 2005 a 2023, cyn iddi roi’r gorau i’w swydd wrth brotestio yn erbyn penderfyniad Boris Johnson i beidio â'i chynnwys ar ei restr anrhydeddau ymddiswyddo.
Nid oedd Llywodraeth y DU wedi ymateb i gais am ymateb.
Llun: Stefan Rousseau/PA Wire