Newyddion S4C

Protestwyr yn taflu cawl ar ddarlun byd-enwog y Mona Lisa

28/01/2024
Mona Lisa

Mae protestwyr wedi taflu cawl ar ddarlun byd-enwog y Mona Lisa, sy’n hongian yn y Louvre ym Mharis.

Cafodd cawl ei daflu ar baentiad Leonardo da Vinci ddydd Sul gan ddwy fenyw ar ran brotestwyr yn erbyn newid hinsawdd.

Roedd y ddwy ohonynt yn gwisgo crysau gyda’r geiriau Ffrangeg ‘Riposte Alimentaire’ yn ymddangos ar eu blaenau – a hynny’n cyfieithu i ‘ymateb bwyd,’ neu ‘food response’ yn y Saesneg.

Mae cynnwys fideo yn dangos y protestwyr yn taflu’r bwyd, a rheiny’n galw am fwyd “iachus a chynaliadwy” gan ddweud bod eu “system amaethyddol yn sâl.”

Mae’r darlun wedi’i hamddiffyn gan ffenest wydr, gan olygu na fyddai’r gwaith celf ei hunan wedi cael ei difetha. 

Nid dyma yw’r tro cyntaf i’r Mona Lisa cael ei thargedu gan brotestwyr, wedi i brotestiwr arall taflu cacen arni ym mis Mai, 2022. 

Image
Mona Lisa
Gweithiwr y Louvre yn glanhau cacen oddi'r Mona Lisa yn 2022 (PA Media)

Prif lun: Eric Terrade/Unsplash

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.